Ryan Jones
Mae hyfforddwr dros dro Cymru, Robin McBryde wedi dweud na fyddai Ryan Jones wedi elwa wrth fynd ar y daith i Siapan yn ystod yr haf.

Yn ôl y sôn, roedd Jones yn awyddus i deithio i Siapan ar ôl gwella o’i anaf i’w ysgwydd a orfododd iddo golli nifer o gemau ar ddiwedd y tymor.  Ond mae McBryde yn credu y gall y cyn gapten elwa o’r saib yma.

‘‘Byddai Ryan wedi hoffi mynd, does dim amheuaeth ynglŷn â hynny.  Rwy’n credu y bydd yn elwa gydag ychydig o amser i ffwrdd o’r cae gyda’i deulu ac yn gallu gwella’n iawn o’i anaf i’w ysgwydd,’’ meddai Robin McBryde.

Heb chwaraewyr profiadol o’r fath, mae McBryde wedi dweud y bydd Siapan yn targedu’r chwaraewyr ifanc.

‘‘Mae’r garfan  yma’n ifanc ac yn llawn egni ac yn barod i roi cynnig ar unrhyw syniadau newydd.  Rwy’n siŵr bydd Eddie Jones (rheolwr Siapan) yn barod amdanom ni,’’ ychwanegodd McBryde.