Mark Hughes
Mae cyn-reolwr Cymru, Mark Hughes yn un o’r enwau sy’n cael eu crybwyll fel olynydd i Tony Pulis, y Cymro fu wrth y llyw yn Stoke ers saith mlynedd.

Daeth cyfnod Pulis gyda’r clwb o ganolbarth Lloegr i ben ddoe.

Roedd Mark Hughes yn rheolwr ar QPR rhwng Ionawr a Thachwedd y llynedd, ond collodd ei swydd wrth i’r clwb o Lundain frwydro yn erbyn disgyn o’r Uwch Gynghrair.

Mae arddull rheoli Hughes yn cael ei ystyried yn debyg i arddull ei gyd-Gymro, Pulis.

Dechreuodd Hughes ei yrfa fel rheolwr gyda Chymru yn 1999 ac fe fu wrth y llyw tan 2004, gan ddod yn agos at gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop 2004.

Collon nhw’r gêm ail gyfle yn erbyn Rwsia a fyddai wedi sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.

Ar ôl ymddiswyddo fel rheolwr Cymru, ymunodd â chlwb Blackburn Rovers, a bu yno tan 2008.

Cafodd gryn lwyddiant ar Barc Ewood, gan arwain y clwb i rownd gynderfynol Cwpan FA am y tro cyntaf ers 40 o flynyddoedd, ac fe lwyddodd i gadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Yn 2009-10, cyrhaeddodd Blackburn Gwpan Uefa ar ôl gorffen yn chwech ucha’r Uwch Gynghrair.

Symudodd i Man City yn 2008 a chafodd y clwb ei brynu gan gonsortiwm o’r Dwyrain Canol yn ystod y tymor, gan ddechrau ar gyfnod o ail-adeiladu a datblygu’r clwb i fod yn un o’r goreuon yn yr Uwch Gynghrair.

Ond cafodd ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr, a chael ei ddisodli gan Roberto Mancini.

Cafodd ei benodi’n rheolwr ar Fulham yn 2010, ar ôl i reolwr presennol Lloegr, Roy Hodgson symud i Lerpwl.

Ymddiswyddodd ar ôl 11 mis yn y swydd, a chafodd ei feirniadu gan berchennog y clwb, Mohamed Al-Fayed.

Yn ogystal â Hughes, mae enwau rheolwr dros dro Chelsea, Rafael Benitez, cyn-reolwr Chelsea a West Brom, Roberto Di Matteo, rheolwr Brighton Gus Poyet, cyn-chwaraewr Man U ac Everton, Phil Neville, a chyn-reolwr Aston Villa, Martin O’Neill hefyd wedi cael eu crybwyll.