Bydd rhaglen ddogfen ar hanes Clwb Pêl-droed Abertawe yn cael ei ddarlledu heno ar BBC 1 Cymru, am 10:35.
Mi fydd “
Gorymdaith tîm Abertawe i ddathlu ennill Cwpan Capitol One eleni
” yn edrych ar hanes y clwb Pêl-droed ers iddynt guro Hull City ar ddiwrnod olaf y tymor yn 2003 er mwyn aros yn y gynghrair, ac yn dilyn taith y clwb i fyny’r cynghreiriau, yr holl ffordd i’r Uwch Gynghrair.
Fe fyddwn yn clywed gan gyn-reolwyr y clwb megis Brian Flynn, a Roberto Martinez a chwaraeodd ran flaenllaw yn llwyddiant y clwb a chwaraewyr megis.
Bydd James Thomas a sgoriodd deirgwaith i achub y clwb yn erbyn Hull yn cyfrannu, yn ogystal â Leon Britton, sy’n dal i chwarae i’r Elyrch ers y diwrnod bythgofiadwy hwnnw.
“Wrth gwrs, mae ochr bêl-droed y stori yn un o garpiau i gyfoeth ynddo’i hun – clwb sy’n mynd o ymyl methdaliad i’r gynghrair uchaf – ond wrth greu’r rhaglen fe wnaethon ddarganfod mai dim ond hanner y stori yw honno” medd Simon Davies o’r BBC.
“Mewn gwirionedd, mae hon yn stori ddiddordeb dynol ac yn daith emosiynol i unrhyw un a chysylltiad â Dinas Abertawe.”