Mae S4C wedi ennill yr hawliau i ddangos un o gemau Cymru yn erbyn Siapan dilyn cytundeb ar y cyd rhwng BBC Cymru Wales ac S4C.

Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm brawf yn erbyn Siapan ar eu taith haf i’r wlad ym mis Mehefin.

Y gemau

Bydd y prawf cyntaf yn Osaka ddydd Sadwrn, 8 Mehefin yn cael ei darlledu yn fyw ar BBC One Wales, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac arlein.

Wythnos yn ddiweddarach, bydd ail gêm brawf Siapan a Chymru yn Tokyo ddydd Sadwrn, 15 Mehefin yn cael ei dangos yn fyw ar S4C gyda sylwebaeth Cymraeg a Saesneg ar gael.

Bydd yr ail gêm hefyd ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a gwefan y BBC, gydag uchafbwyntiau ar raglen Scrum V ar BBC Two Wales y noson honno.

Cyfle i chwaraewyr wneud argraff

Bydd y daith ddwy gêm i Siapan yn gyfle i chwaraewyr hawlio llefydd rheolaidd yn nhîm Cymru, a rhoi cyfle i rai o’n chwaraewyr ifanc mwyaf addawol sefydlu eu hunain ar y llwyfan rhyngwladol.

Meddai Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales: “Ry’n ni wrth ein boddau i allu cynnig dwy gêm brawf Cymru i’n gwylwyr a’n gwrandawyr.

“Bydd yn ddiddorol iawn gweld pa chwaraewyr o Gymru sy’n amlygu eu hunain yn ystod y ddwy gêm anodd yma. Bydd hi’n werth i gefnogwyr osod y larwm i’w gwylio!”

Profi pwynt

Meddai Comisiynydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands: “Bydd y gyfres brawf yma’n rhoi cyfle i ambell i chwaraewr o Gymru brofi pwynt ar ôl methu â chael lle gyda’r Llewod, a bydd y garfan gyfan yno i greu argraff.

“Diolch i’r cytundeb yma ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru Wales, fe fyddwn ni’n gallu gwylio pob munud.”

Mi fydd y ddwy gêm yn dechrau am 6.00yb amser Prydain.