Mae Georgia Ruth Williams ymysg y perfformwyr yng Ngŵyl Nyth eleni
Dydd Sul, bydd criw Nyth yn cynnal eu gŵyl gerddorol flynyddol yng Nghaerdydd a bydd y gynulleidfa yn gallu mwynhau cerddorion mewn mwy nac un iaith unwaith eto yn ôl un o’r trefnwyr.
“Tydan ni erioed wedi mynd ati i drefnu gigs uniaith Gymraeg yn unig,” meddai Gwyn Eiddior.
“Da ni’n byw mewn gwlad ddwyieithog felly da ni’n trio cymysgu pethau. Yn bendant er mwyn hybu cerddoriaeth Gymraeg o fewn y di-gymraeg, ond hefyd er mwyn rhoi cyfle i Gymry Cymraeg glywed deunydd na fydda nhw fel arfer.”
“Ond da ni ddim yn cyfyngu ein hunain i ddwy iaith chwaith,” esbonia Gwyn Eiddior. “Roedd ‘na fand o Siapan, Bo Ningen, yn chwarae llynedd a chwaraeodd Rene Griffiths o Batagonia ddwy flynedd yn ôl.”
Hyrwyddwr y Flwyddyn
Hwn fydd gŵyl gyntaf Nyth ers iddyn nhw gipio gwobr Hyrwyddwr y Flwyddyn yng ngwobrau cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar yn gynharach eleni.
“Mi oedd ennill y wobr yn wych ,” meddai Gwyn Eiddior. “Da ni’n gwneud hyn er mwyn y pleser da ni’n ei gael o drefnu gigs ond mae cael rhyw fath o gydnabyddiaeth am hynny yn grêt.”
Yn yr ŵyl eleni bydd bandiau fel Candelas yn rhannu’r llwyfan gyda bysgiwr o Lundain, Lewis Floyd Henry. Ymysg yr artistiaid eraill eleni fydd We Are Animal, Georgia Ruth Williams, Sŵnami, Wilma Sands, David Mysterious ac R. Seiliog.
Arddangosfa Celf
Bydd y gantores, Swci Boscawen, hefyd yn arddangos ei gwaith celf am y tro cyntaf yn yr ŵyl a bydd cyfle i brynu recordiau mewn stondin recordiau labeli annibynnol Cymru.
Bydd Gŵyl Nyth yn cael ei chynnal yn Porters, Caerdydd, dydd Sul 26 Mai o 2:00yh ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael er y dudalen Facebook Gŵyl Nyth