Yn ôl adroddiadau, mae cwmni General Dynamics, sy’n cynhyrchu offer milwrol, wedi cyhoeddi y bydd 185 o swyddi’n cael eu colli.
Mae gweithwyr yn safleoedd y cwmni yn Nhrecelyn ac Oakdale ger Caerffili yn aros i glywed a fydd y diswyddiadau’n effeithio arnyn nhw.
Mae 800 o bobol yn cael eu cyflogi ar y ddau safle, ac mae 1,600 yn cael eu cyflogi trwy’r DU gyfan.
Dywed y cwmni y bydd swyddi’n cael eu colli ar bob safle.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf yng nghanol cyfnod o drawsnewid i’r cwmni, ar ôl i’w reolwr-cyfarwyddwr, Sandy Wilson ymddeol.
Yn ddiweddar, cafodd Steve Rowbotham ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol.
Bydd y cyfnod diswyddo’n dechrau ar ddiwedd y mis, ond mae disgwyl i’r diswyddiadau fod yn rhai gwirfoddol.