Nick Clegg
Mae ’na amheuaeth ynglŷn â diwygiadau gofal plant y Llywodraeth Glymblaid ar ôl i Nick Clegg awgrymu nad oedd yn cefnogi llacio’r rheolau ynglŷn â faint o blant mae gofalwyr yn gallu eu goruchwylio mewn meithrinfeydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Dirprwy Brif Weinidog ei fod “eto i’w argyhoeddi” y dylai staff a gofalwyr all edrych ar ôl mwy o blant.
Daw’r polisi, sy’n cael ei arwain gan weinidog addysg y Ceidwadwyr, Liz Truss, yn dilyn misoedd o drafodaethau rhwng pleidiau’r Glymblaid.
O fis Medi ymlaen, fe fydd nifer y plant o dan un oed sy’n cael gofal gan un oedolyn yn codi o dri i bedwar.
Fe fydd pob oedolyn yn cael gofalu am chwe phlentyn 2 oed yn lle 4.
Mae Liz Truss yn dadlau y bydd y newidiadau yn gostwng costau gofal plant ac yn caniatáu i weithwyr proffesiynol yn y sector i gael cyflogau uwch.
Ond mae’r newidiadau wedi wynebu beirniadaeth hallt gan arbenigwyr ac undebau.