Fe fydd pob troseddwr sy’n gadael y carchar yn gorfod cael eu goruchwylio am flwyddyn yn y gymuned, mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi cyhoeddi.

Dywedodd Chris Grayling y byddai pob troseddwr sy’n mynd i’r carchar, hyd yn oed am ychydig ddyddiau, yn gorfod cael eu goruchwylio ac yn cael cymorth i ddod o hyd i gartref, gwaith, hyfforddiant a rhaglenni arbennig ar gyfer defnyddwyr cyffuriau.

Fe fydd y diwygiadau, sy’n dod i rym yng Nghymru a Lloegr erbyn 2015, yn golygu bod 65,000 o droseddwyr, sydd wedi cael dedfrydau o hyd at ddwy flynedd, yn cael cymorth ychwanegol i’w hailsefydlu.

Mae’r newidiadau’n rhan o gynllun y Llywodraeth i geisio gostwng nifer y rhai sy’n ail-droseddu. Fe fydd yn golygu bod sefydliadau preifat a gwirfoddol yn cael mwy o rôl wrth helpu troseddwyr, ac fe fyddan nhw’n cael eu talu yn ôl eu canlyniadau.

‘Cyfle euraidd’

Dywedodd Chris Grayling bod y diwygiadau yma yn “gyfle euraidd” i fynd i’r afael a chyfraddau uchel o ail-droseddu.

“Dyw hi ddim yn ddigon da ein bod ni’n gwario £4 biliwn y flwyddyn ar garchardai a’r gwasanaeth prawf ac eto yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth i atal troseddwyr rhag ail-droseddu. Dyw hi’n fawr o syndod o ystyried bod troseddwyr sy’n ail-droseddu’n gyson yn gadael y carchar heb unrhyw oruchwyliaeth yn y gymuned.

“Mae’r diwygiadau yma yn hanfodol er mwyn sicrhau bod troseddwyr yn cael eu cosbi ond hefyd yn cael cymorth i’w helpu i droi eu cefn ar droseddu.”

Ond dywedodd llefarydd cyfiawnder yr wrthblaid Sadiq Khan bod David Cameron wedi addo newidiadau “ond wedi methu, ac wedi gwastraffu’r tair blynedd diwethaf yn gwneud dim.”