Dafydd Iwan
Bydd Dafydd Iwan a’r Band yn chwarae gyda’i gilydd am y tro olaf ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau eleni.

Yn dilyn y gig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, ni fydd Dafydd Iwan yn perfformio gyda’r band mewn gig o’r fath eto er y bydd Dafydd Iwan ei hun yn parhau i ganu.

Meddai Guto Brychan, Trefnydd Maes B: “Mae hwn yn ddiwedd cyfnod i ni yng Nghymru a’r teimlad oedd y dylid nodi hyn trwy gynnig y slot olaf ym Maes B eleni i Dafydd a’r Band.

“Bu Dafydd yn gefnogwr brwd o Faes B ers blynyddoedd, ac mae’i ddylanwad yn dal i’w weld yng ngwaith nifer o berfformwyr heddiw.”

Hefyd ym Maes B eleni bydd Hud, Swnami, r. seiliog, Violas ac Y Reu ar y nos Fercher.  Yna, nos Iau, bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Colorama, Sen Segur, Plant Duw a Plu yn perfformio.

Nos Wener, Yr Ods sy’n arwain gyda Candelas, Gwenno, Gwyllt ac Y Ffug hefyd yn ymddangos, a bydd Maes B yn cloi gyda Dafydd Iwan a’r BandY Bandana, Al Lewis Band ac Y Bromas.

Newidiadau

Dyma’r Maes B cyntaf ers i’r Eisteddfod Genedlaethol gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc, adolygiad a gafodd gydweithrediad a chroeso gan bobl ifanc a’r diwydiant cerddoriaeth ym mhob rhan o Gymru.  Mae nifer o newidiadau wedi’u cyflwyno eleni yn sgil yr adroddiad hwn, ac mae’r rhain yn cynnwys:

–           Creu gofod arbennig ar gyfer pobl ifanc ar y Maes dan y teitl Caffi Maes B, gyda rhaglen o weithgareddau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys sesiynau cerddorol, sgyrsiau a gweithgareddau anffurfiol.  Bydd hefyd yn le i bobl ifanc ddod i ymlacio a chymdeithasu

–          Ystyried cynnig mynediad rhatach i Maes B ar gyfer unrhyw un gyda thocyn Maes dilys am y diwrnod hwnnw

–          Defnyddio fflagiau, baneri a ‘bunting’ er mwyn addurno’r ardal a chreu rhagor o ymdeimlad o ŵyl

–          Parhau i gynnal Maes B ar y Maes ddechrau’r wythnos gyda’r ŵyl yn symud i Faes Pebyll Maes B o’r nos Fercher ymlaen

–          Defnyddio pabell ‘Big Top’ heb ochrau ym Maes B yn 2013

‘Gwella’r ddarpariaeth’

Ychwanegodd Guto Brychan: “Bu’r adolygiad yn gyfle gwerthfawr i ni siarad a thrafod gyda defnyddwyr Maes B er mwyn gweld sut y dylem ni ehangu a datblygu’r arlwy yn y dyfodol.  Roedd y mwyafrif llethol yn fwy na hapus gyda’r arlwy ar hyn o bryd, a’r bandiau’n cael croeso mawr.

“Ond nid da lle gellir gwell, ac fe gododd nifer o bobl rai pethau yr hoffent eu gweld yn cael eu datblygu neu’u gwella, ac rydan ni wedi gwrando ac wedi mynd ati i geisio gwella’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc o 16 oed i fyny.  Gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn cael croeso eleni yn Sir Ddinbych, ac fe fydd rhagor i ddod y flwyddyn nesaf pan gynhelir yr Eisteddfod yn Sir Gâr.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst.