Cynhaliwyd Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid dros benwythnos Gŵyl Calan Mai, a chafwyd tair eisteddfod a gornest Talwrn y Beirdd llwyddiannus dros ben. Tystiodd y beirniaid, Rhys Meirion, Alun Guy, Huw Ffowc, Keith Davies, Ann Pash a Rhian Jones fod safon y cystadlu ar y llwyfan yn eithriadol o uchel, ac hefyd roedd beirniaid yr adran lenyddiaeth, Y Prifardd Ceri Wyn Jones ac Ifan Prys yn canmol yn fawr iawn yr holl waith cartref a oeddent wedi ei dderbyn.
Enillwyd y Goron, allan o 14 o ymgeiswyr, gan Islwyn Edwards, Aberystwyth, yn wreiddiol o Ffair Rhos, ac enillydd y gadair oedd Dai Rees Davies, Rhydlewis a’r y ddau yn enillwyr cyson yn y Bont.

Cynhaliwyd yr eisteddfod ar y nos Wener yn Neuadd Pantyfedwen, ac roedd yn hyfryd gweld y lle’n orlawn, gydag ysgolion newydd yn cystadlu eleni. Ar y dydd Sadwrn â’r dydd Llun, yn y pafiliwn oedd y cystadlu, gyda’r Talwrn ar y nos Sul yn llyfrgell Neuadd Pantyfedwen, a phedwar tîm brwdfrydig yn cystadlu. Yr enillwyr o drwch blewyn oedd tîm Y Rhelyw o ardal Caerfyrddin, gyda thîm Ffair Rhos yn dynn wrth eu sodlau.

Eisteddfod nos Wener:

Parti Unsain oedran Cynradd: 1.  Ysgol Penrhyncoch. 2. Ysgol Gynradd Tregaron. 3. (Cydradd) Ysgol Pontrhydfendigaid ac Ysgol Felinfach.

Parti Llefaru oedran Cynradd:  1. Ysgol Gynradd Tregaron. 2. Ysgol Felinfach. 3. (Cydradd) Ysgol Pontrhydfendigaid ac Ysgol Penrhyncoch.

Côr oedran Cynradd: 1. Ysgol  Pontrhydfendigaid. 2. Ysgol Penrhyncoch. 3. Ysgol Gynradd Tregaron. 4.  Ysgol Felinfach.

Ymgom oedran Cynradd: 1. Ysgol Felinfach. 2. Siwan,  Elin, Steffan a Megan.

Ymgom oedran Uwchradd: 1. John, Meleri a  Carys, Ysgol Uwchradd Tregaron. 2. Martha Dafydd a Nest Jenkins, Ysgol  Uwchradd Tregaron. 3. Cadi Jones, Ffair Rhos a Twm Ebsworth,  Llanwnnen.

Unawd Offerynnol blwyddyn 9 ac iau: 1. Nest Jenkins,  Lledrod. 2. Ifan Llywelyn, Llanilar. 3. Erin Hassan, Borth.

Côr ieuenctid: 1 Ysgol Uwchradd Tregaron.

Unawd Offerynnol blwyddyn 10 a throsodd: 1. Jay Snow, Rhydlewis. 2. Grady Hassan, Borth. 3. Rhun  Penri, Bow Street.

Ensemble Offerynnol: 1. Grŵp Rhun, Ysgol Gyfun  Penweddig. 2. Grŵp Nils, Ysgol Gyfun Penweddig. 3. Triawd Ysgol  Uwchradd Tregaron.

Enillydd Tlws Coffa Goronwy Evans i’r chwaraewr  Pres gorau: Erin Hassan, Borth.

Eisteddfod dydd Sadwrn:

Unawd blwyddyn 2 ac iau: 1. Megan Williams,  Lledrod. 2. Miriam Llwyd Davies, Talybont. 3. Steffan Dafydd Jones, Ponterwyd.

Llefaru blwyddyn 2 ac iau: 1. Megan Williams. 2. Miriam  Llwyd Davies. 3. Steffan George, Lledrod.

Unawd blynyddoedd 3 a 4: 1.  Llyr Ifan Eurig, Aberystwyth. 2. Nansi Rhys Adams, Caerdydd. 3. Heledd  Wynn Newton, Caerdydd.

Llefaru blynyddoedd 3 a 4: 1. Nansi Rhys Adams, Caerdydd. 2. Glain Llwyd Davies, Talybont. 3. Nia Eleri Morgans,  Gorsgoch.

Unawd blynyddoedd 5 a 6: 1. Siwan Aur George, Lledrod. 2.  Elin Fflur Jones, San Cler. 3. Owain John, Llansannan.

Llefaru  blynyddoedd 5 a 6: 1. Elain Fflur Jones, San Cler. 2. Sara Elan Jones,  Cwmann. 3. Owain John.

Unawd Alaw Werin blwyddyn 6 ac iau: 1. Elin  Fflur Jones. 2. Nansi Rhys Adams. 3. Owain John.

Unawd Cerdd Dant  blwyddyn 6 ac iau: 1. Owain John. 2. Llys Ifan Eurig. 3. Elin Fflur  Jones.

Unawd blynyddoedd 7-9: 1. Anest Non Eurig, Aberystwyth. 2.  Dafydd Cernyw, Llansannan. 3. Bethany Jones, Penmaenmawr.

Llefaru  blynyddoedd 7-9: 1. Nest Jenkins, Lledrod. 2, Dafydd Cernyw.

Unawd Alaw  Werin blynyddoedd 10-13: 1. Anest Non Eurig.

Deuawd Cymdeithas  Eisteddfodau Cymru: 1. Cadi Jones, Ffair Rhos a Ceris Davies,  Pontrhydfendigaid.

Unawd Cerdd Dant Agored: 1. Trefor Pugh,  Trefenter. 2. Dafydd Jones, Ystrad Meurig.

Unawd Alaw Werin Agored; 1.  Trefor Pugh. 2. Caryl Haf, Llanddewi Brefi. 3. Dafydd Jones.

Côr  Agored: 1. Côr Merched Canna, Caerdydd. 2. Côr Aelwyd Pantycelyn,  Aberystwyth. 3. Côr Meibion De Cymru.

Eisteddfod y dydd Llun:

Unawd blynyddoedd 10-13: 1. Mared Lloyd Jones,  Llanddewi Brefi.

Llefaru blynyddoedd 10-13: 1. Meleri Morgan,  Bwlchllan.

Deuawd Agored: 1. Andy a Sioned Wyn Evans, Dolgellau. 2.  Heulen Gwynn Cynfal, Parc Y Bala, a Gerallt Rhys Jones, Cemaes Road.  3. Emma Rowbotham, Pontrhydfendigaid a Mared Lloyd Jones, Llanddewi  Brefi.

Canu Emyn dros 60 oed: 1. Vernon Maher, Saron, Llandysul. 2.  Gwynne Jones, Llanafan. 3. Elen Davies, Llanfair Caereinion.

Unawd dan  25 oed: 1. Adam Gilbert, Aberteifi. 2. Rhodri Jones, Llanfyllin. 3.  Heulen Gwynn Cynfal, Parc Y Bala. 4. Heledd Besent, Pennal.

Ysgoloriaeth Ifor Lloyd 2013 i’r cystadleuydd gyda’r llais mwyaf  addawol: Adam Gilbert.

Llefaru dan 25 oed: 1. Rhian Davies, Pencader.  2. Heulen Gwynn Cynfal. 3. Heledd Besent.

Unawd Gymraeg: 1. Kees  Huysman, Tregroes. 2. Eirlys Myfanwy Davies, Llanelli. 3. Eleri  Edwards, Cilycwm. 4. John Davies, Llandybie.

Prif gystadleuaeth Lefaru  Unigol: 1. Elen Gwenllian, Caernarfon. 2. Rhian Davies. 3. Heulen  Gwynn Cynfal.

Her Unawd dros 25 oed: 1. Kees Huysman. 2. Eirlys  Myfanwy Davies. 3. Jennifer Parry, Aberhonddu. 4. Euros Jones  Campbell, Glasgow. 5. Eleri Owen Edwards, Cilycwm. 6. Sioned Wyn  Evans, Dolgellau.

Monolog: 1. Rhian Davies. 2. Elen Gwenllian. 3.  Heulen Gwynn Cynfal.

Unawd allan o Sioe Gerdd: 1. Rhodri Jones,  Llanfyllin. 2. Eirlys Myfanwy Davies. 3. Adam Gilbert. 4. (Cydradd)  Euros Jones Campbell ac Elen Gwenllian.

Unawd Oratorio: 1. Eirlys  Myfanwy Davies. 2. Adam Gilbert. 3. Rhodri Jones. 4. Heulen Gwynn  Cynfal.

Adran Lenyddol:

Emyn: 1. W.D. Evans, Llanrhystud. 2. Mary Morgan,  Llanrhystud. 3. Dilys Baker Jones, Bow Street.

Englyn: 1. John  Ffrancon Griffiths, Abergele. 2. John Parry, Llanfairpwll. 3. Dai Rees  Davies, Rhydlewis.

Soned: 1. Vernon Jones, Bow Street. 2. Dai Rees  Davies. 3. John Meurig Edwards, Aberhonddu.

Cystadleuaeth i Ysgolion  Uwchradd: 1. Dylan Huw Edwards, Llandre.

Telyneg: 1. Vernon Jones. 2.  Terwyn Tomos, Llandudoch. 3. Dai Rees Davies.

Cyfres o Chwe Cwpled: 1.  John Ffrancon Griffiths. 2. Dai Rees Davies. 3. Vernon Jones.

Y  Goron: Islwyn Edwards, Aberystwyth.

Y Gadair: Dai Rees Davies.

Talwrn  y Beirdd: 1. Tîm Y Rhelyw, ardal Caerfyrddin. 2. Tîm Ffair Rhos. 3.  (Cydradd): Tîm Ffostrasol a Thîm Glannau Teifi.