Mae disgwyl y bydd pobol ym Merthyr Tudful ymhlith y rhai sy’n dioddef waethaf yng ngwledydd Prydain oherwydd diwygiadau i’r system fudd-daliadau.

Gallen nhw golli hyd at £720 y flwyddyn, y swm uchaf yng Nghymru – ond mae ardaloedd eraill tebyg yn mynd i ddiodde’n ddrwg hefyd, meddai ymchwilwyr.

Fe fydd y diwygiadau’n tynnu £19 biliwn allan o economi gwledydd Prydain, meddai’r academwyr o Brifysgol Sheffield Hallam.

Hen ardaloedd diwydiannol fel de Cymru fydd yn ei chael hi waetha’, medden nhw, tra bod trefi yn ne Lloegr y tu allan i Lundain yn diodde’ llawer llai.

Wrth edrych ar ardaloedd awdurdodau lleol, roedden nhw’n awgrymu y bydd y colledion yn uwch ble mae’r economi’n wan.

Yr effaith wleidyddol

Mae’r diwygiadau’n cynnwys budd-dal tai, y ‘dreth stafell wely’, lwfans anabledd byw, budd-dal plant, credyd trethi, budd-dal treth y cyngor a nifer o fudd-daliadau eraill.

Fe fyddai rhai pobol yn diodde’n fawr oherwydd y cyfuniad o newidiadau, meddai arweinydd yr ymchwilwyr, yr Athro Steve Fothergill.

“Mae ein ffigurau ni hefyd yn dangos bod y Llywodraeth Glymblaid yn gyfrifol am ddiwygiadau lles a fydd yn effeithio’n bennaf ar unigolion a chymunedau y tu allan i’w chadarnleoedd gwleidyddol hi,” meddai.

‘O fantais’ meddai’r Llywodraeth

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud y bydd y diwygiadau’n fanteisiol i’r rhan fwyaf o gartrefi lle mae o leiaf un person yn gweithio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: “Bydd oddeutu naw o bob deg o gartrefi lle mae rhywun yn gweithio ar eu hennill o oddeutu £300 y flwyddyn o ganlyniad i newidiadau yn y system drethi a lles y mis hwn.

Ychwanegodd y bydd y diwygiadau’n annog rhagor o bobol i ddychwelyd i’r gwaith, a bod y newidiadau’n “hanfodol er mwyn cadw’r bil budd-daliadau’n gynaladwy” er mwyn cefnogi pobol.