Mae’r cyn Brif Weinidog Tony Blair wedi rhybuddio’r Blaid Lafur rhag mynd yn ôl i’w hen dir traddodiadol.
Roedd yna beryg, meddai, fod y pleidiau gwleidyddol yn mynd yn ôl i hen frwydrau’r 20fed ganrif ac roedd y bygythiad o hynny yn fwy i Lafur nag i’r Ceidwadwyr.
Fe fydd ei sylwadau’n cael eu gweld yn feirniadaeth ar ddiffyg arweiniad y blaid o dan Ed Miliband.
Yr egwyddor i Lafur oedd chwilio am atebion yn hytrach na bod yn gartref i “ddicter pobol”,” meddai Tpny Blair mewn erthygl yn y cylchgrawn materion cyfoes, New Statesman.
Roedd yn rhybuddio’i blaid rhag credu bod yr argyfwng economaidd wedi arwain at symudiad i’r chwith – doedd hynny ddim yn wir, meddai.
‘Angen arweiniad’
Fe rybuddiodd Llafur rhag cael eu gweld yn gwneud dim ond gwrthwynebu toriadau a chynrychioli pobol oedd yn teimlo bod toriadau’n annheg.
“Yn yr amseroedd hyn, yn fwy na dim, mae pobol eisiau arweiniad,” meddai Tony Blair. “Mae’r ddadl yn glir am yr angen am ddiwygio sylfaenol yn y wladwriaeth wedi’r rhyfel.”
Y tir canol oedd y tir mwya’ ffrwythlon, meddai.