M&S Caerdydd
Fe fu cynnydd bach yng ngwerthiant cwmni Marks and Spencer, ond mae’r adran ddillad yn parhau i ddiodde’.

Fe gyhoeddodd y cwmni gynnydd o 0.6% mewn gwerthiant cyffredinol yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn – gwelliant mawr ar gwymp y chwarter cynt.

Ond roedd y ffigurau manwl yn dweud dwy stori wahanol – cynnydd o 4% yng ngwerthiant bwyd a chwymp o 3.8% mewn nwyddau cyffredinol, sy’n cynnwys dillad.

Dan bwysau tros ddillad

Ffigurau M&S yw rhai o’r canlyniadau allweddol o ran masnach y stryd fawr ac mae’r Prif Weithredwr, Marc Bolland, dan bwysau oherwydd perfformiad gwael tymor hir yr adran ddillad.

Fe ddywedodd heddiw fod tîm ffasiwn newydd bellach yn ei le ond dim ond yn yr haf y bydd eu dillad nhw yn cyrraedd y siopau.

Un esboniad am gynnydd yr adran fwyd yw fod pobol yn troi at enw saff yn sgil y sgandal tros gig ceffyl.