Cafodd 9,307 o wartheg eu difa yng Nghymru yn ystod 2012 oherwydd y diciâu – cynnydd o 15% ers 2011, yn ôl ystadegau newydd gan Defra.
Yn ôl undeb NFU Cymru mae’r ystadegau’n “tanlinellu’r ffaith bod y diciâu allan o reolaeth ac nad yw mesurau llym ar gyfer gwartheg yn unig yn mynd i ddatrys y broblem gynyddol.”
Dywedodd Dirprwy Lywydd yr undeb Stephen James: “Mae’r diciâu yn un o’r bygythiadau mwyaf i ffermwyr llaeth a chig eidion. Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae ffermwyr wedi colli dros 48,000 o wartheg oherwydd y diciâu.”
Mae’r ystadegau gan Adran Materion Gwledig Llywodraeth San Steffan yn dangos cynnydd o 22% ers 2010.
“Ym 1998 roedd 1,046 o wartheg yn dioddef o’r diciâu yng Nghymru, heddiw fe welwn fod y ffigwr yn 2012 890% yn uwch, gyda 9,307 yn cael eu difa oherwydd yr afiechyd,” meddai Stephen James.
‘Angen gweithredu ar frys’
Dywedodd bod y ffigyrau’n dangos na fydd polisi sy’n methu mynd i’r afael a’r afiechyd ymhlith poblogaeth bywyd gwyllt yn gallu dileu’r afiechyd yn llwyr o gefn gwlad ac o ganlyniad mae’n parhau i gynyddu.
“Mae’n rhaid i hyn fod yn alwad i Lywodraeth Cymru,” meddai Stephen James gan ychwanegu bod angen gweithredu ar frys drwy reoli moch daear drwy bolisi gwyddonol yn hytrach na pholisi o frechu.
‘Gambl gostus’
Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd Antoinette Sandbach, llefarydd ar faterion gwledig y Ceidwadwyr yng Nghymru bod y “cynnydd sylweddol yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael a’r diciâu.
Dywedodd bod y cynnydd o 15% yn nifer y gwartheg sy’n cael eu difa oherwydd y diciâu yng Nghymru ddwywaith yn fwy na’r cynnydd yn Lloegr.
Ychwanegodd mai difa yw’r unig ffordd sydd wedi ei brofi i daclo’r afiechyd ond bod hyn wedi ei wrthod gan weinidogion Llafur am “resymau gwleidyddol nid gwyddonol.”
“Mae’r rhaglen brechu yn parhau i fod yn gambl gostus.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y ffigurau yn siomedig ond eu bod hefyd yn adlewyrchu gostyngiad sylweddol yn nifer y gwartheg gafodd eu difa yn 2008/2009 oherwydd y diciâu.
“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i fynd i’r afael a’r diciâu mewn gwartheg o ystyried yr effaith ar ffermwyr a chymunedau cefn gwlad. Serch hynny, does dim ffordd gyflym o daclo’r afiechyd.
“Mae cydweithrediad parhaol rhwng y llywodraeth a’r diwydiant yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen i gael gwared a’r diciâu ac fe fyddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid i leihau’r achosion o’r afiechyd ofnadwy yma,” meddai’r llefarydd.