Llun: ‘Por Quien Merece Amor’ ('I’r sawl sy’n haeddu cariad’) gan Antonio Guerrero
Mae pum dyn o Giwba wedi bod mewn carchar yn America ers 13 mlynedd, am resymau cwbl annheg, yn ôl ymgyrchwyr hawliau dynol.

Er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa, fe fydd darluniau o waith llaw y pump i’w gweld yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd tan ddydd Sul.

Bwriad yr arddangosfa yw tynnu sylw at ffawd y pum carcharor – Gerardo Hernández, Antonio Guerrero, Ramón Labañino, Fernando González, and René González. Agorwyd yr arddangosfa ddydd Mawrth gan Lysgenhades Ciwba ym Mhrydain, Señora Esther Armenteros Cárdenas.

“Mae’n amlwg eu bod nhw eisiau cyhoeddusrwydd i’r peth,” meddai Emrys Roberts, un o’r trefnwyr ar ran mudiad Cymru-Cuba.

FBI

Roedd terfysgwyr yn Miami, Florida yn trefnu gweithredoedd yn erbyn Ciwba yn y 1970au a’r 1980au. Mi wnaethon nhw fomio awyren o Ciwba a bu farw 76 o bobol; a chynnal ymgyrch bomio gwestai twristiaid yn Ciwba a llongddrylliadau. Yn niwedd y 1990au, aeth y pum dyn o Ciwba i Miami i geisio darganfod pa gynlluniau terfysgol eraill oedd ar y gweill, a chyflwyno’r dystiolaeth i’r FBI.

Yn lle arestio’r cynllwynwyr, dyma’r FBI yn cipio ac yn arestio’r dynion o Cuba. Mi gawson nhw eu dedfrydu i garchar yn 1998 – a dau ohonyn nhw am oes, am gynllwynio i ladd.

“Chawson nhw ddim treial teg o gwbl yn Miami,” meddai Emrys Roberts. “Mae Amnesty wedi dweud na chawson nhw dreial teg.”

Fe gytunodd y Llys Apêl i brawf newydd ond, wedi i Lywodraeth America apelio at y Llys Goruchaf, mi gafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi.

Gwrandawiad cyhoeddus

Mae’r Cubist Solidarity Campaign ym Mhrydain nawr yn ceisio sefydlu comisiwn rhyngwladol, a gwahodd enwogion fel y Parch Desmond Tutu a Mary Robinson o Iwerddon i gynnal gwrandawiad cyhoeddus i hanes y pump. Trwy law’r ymgyrch yma y daeth y darluniau i Gaerdydd, ac maen nhw eisoes wedi cael eu harddangos mewn dinasoedd fel Llundain a Glasgow.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyflwyno gwarchae economaidd a masnachu yn erbyn Ciwba ers deugain mlynedd, sy’n destun dadlau ymhlith gwledydd y Cenhedloedd Unedig. “Mae Llysgenhadaeth Ciwba yn barod iawn i helpu unrhyw rai sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i gyflwr Ciwba a’r annhegwch mae America yn ei orfodi arnyn nhw,” meddai Emrys Roberts.

Che Guevara

Mae portread o Che Guevara ymhlith y darluniau, ynghyd â thirluniau, a rhai o frodorion Ciwba, ond cartwnau yw eu hanner nhw.

Mi gyfarfu Señora Cárdenas hefyd ag aelodau Pwyllgor Gwaith TUC Cymru ddydd Mawrth, a Rosemary Butler, Llywydd y Senedd a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac Aelodau Seneddol eraill.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eithaf cefnogol i Ciwba,” meddai. “Mae yna ‘femorandwm dealltwriaeth’ wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Ciwba ers 2008, ac mae yna gyfnewidiadau yn gyson yn digwydd – yn enwedig gyda’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd,”

Castro yn edmygu Owain Glyndŵr

Mae yna “rai paralels eitha’ diddorol” rhwng Cymru a Ciwba, yn ôl Emrys Roberts. “Eu harwr cenedlaethol pennaf nhw yw eu bardd cenedlaethol nhw, José Martí (1853 – 1895),” meddai. “Mewn ysgolion yn y gwledydd Comiwnyddol, fel arfer mae gyda chi lun o Stalin neu bwy bynnag yw’r unben ar y pryd. Ond fan’na, fe gewch chi lun neu golofn gyda phen Martí.”

Yn ôl pob sôn, mae Fidel Castro, y cyn-lywydd, yn edmygu Owain Glyndŵr, ac wedi astudio hanes Cymru ym mhrifysgol Havana. “Roedd e’n dweud ei fod wedi dysgu cryn dipyn o ddulliau Owain Glyndŵr, un o’r guerrillas cyntaf,” meddai.

Mae sôn ei fod wedi darllen am ysgolion cylchynol Gruffudd Jones, Llanddowror ac wedi arfer y dull yna o ddysgu ar ôl y chwyldro i sicrhau llythrennedd i bawb. “Mi lwyddon nhw o fewn naw mis i gael 99% o’r boblogaeth yn llythrennog. Felly mae yna gryn dipyn o gysylltiadau â Chymru.”

Stori: Non Tudur