Mae’r Wyddgrug a Bangor ymhlith dwy ardal sy’n cael eu hystyried ar gyfer cyfres o sianeli teledu lleol.
Mae Ofcom am weld faint o ddiddordeb sydd yna gan gwmnïau mewn rhedeg sianeli teledu lleol mewn 30 o ardaloedd trwy’r Deyrnas Gyfunol, yn eu plith Abertawe, Bangor a’r Wyddgrug.
Y llynedd dyfarnodd Ofcom drwyddedi ar gyfer sianeli teledu newydd mewn 19 ardal, gan gynnwys Caerdydd. Cwmni Made in Cardiff gafodd y drwydded ar gyfer teledu Caerdydd.
Er bod Abertawe ar y rhestr yn y gyfres gyntaf o drwyddedi ni chynigiodd neb amdano, ac mae Ofcom yn gofyn unwaith eto i gwmnïau fynegi diddordeb mewn darlledu i drigolion ail ddinas Cymru.
Yr unig ardal arall ble na fu cynnig am drwydded oedd Plymouth yn ne Lloegr.
Mae gan ymgeiswyr tan 24 Ebrill eleni i ddatgan eu diddordeb nhw mewn sefydlu sianel deledu leol yn y 30 ardal dan sylw. Maen nhw hefyd yn agored i gynigion o ardaloedd eraill “ble mae’n bosib arddangos ymarferoldeb technegol a bodolaeth gweithredwr sydd â diddordeb mewn dal trwydded.”