Ni fydd gŵyl gerddorol sydd wedi ei chynnal yn Sir Gâr ers tair blynedd yn dychwelyd i Gymru eleni.

Roedd Beach Break wedi cael ei chynnal  ym mharc gwledig Pen-bre ers 2010, ac wedi denu dros 20,000 o bobol bob blwyddyn oedd yn dod i weld rhai o fawrion y byd cerddorol, gan gynnwys Example, Calvin Harris, Dizzee Rascal a Tinie Tempah.

Ond eleni, bydd yr ŵyl yn symud i leoliad newydd yn Newquay yng Nghernyw lle cafodd ei chynnal yn wreiddiol.

‘Gormod o gyfyngiadau’

Dywedodd y rheolwyr bod gormod o gyfyngiadau yn eu rhwystro rhag creu’r math o ŵyl roedden nhw am ei chynnal.

“Rydyn ni eisiau cynnig mwy na cherddorion ar lwyfan yn unig.  Rydyn ni eisiau cynnig profiad llawn, rhywbeth hollol unigryw, gwyliau cerddorol lle mae pob syniad yn bosib,” meddai datganiad ar wefan Beach Break.

“Ym Mhen-bre, nid oedd yn bosib i ni gyflawni hynny.  Roedd gormod o gyfyngiadau yn ein rhwystro rhag creu ein breuddwyd am Beach Break yn llawn.”

Colli elw i’r ardal

Er bod rhai pobol leol wedi cwyno am y digwyddiad yn y gorffennol, roedd llawer yn ei weld fel hwb i economi’r ardal.

Roedd nifer fawr o ymwelwyr i Sir Gâr yn golygu cynnydd mawr mewn gwerthiant yn y  siopau a busnesau lleol, gan ddod a hyd at £1 miliwn i’r ardal.