Mae un o sloganau enwocaf y mudiad iaith yn ymddangos mewn ffilm Saesneg newydd am hen rocars yn ceisio twyllo’r byd pop.

Yn Vinyl mae cymeriad yr actor Cockney Phil Daniels, oedd yn Eastenders, Quadrophenia ac ar gân Parklife gan Blur, yn gwisgo crys-t gan Gymdeithas yr Iaith gyda’r slogan Nid Yw Cymru Ar Werth.

Mae gan y ffilm gysylltiadau Cymreig eraill. Mae’n seiliedig ar hanes y canwr o’r Rhyl, Mike Peters, yn rhyddhau sengl yn 2004 gan esgus mai band ifanc yn eu harddegau oedd y tu cefn iddo, nid hen rocar profiadol.

Cyfarwyddwr y ffilm yw Sara Sugarman, sydd hefyd yn dod o’r Rhyl,  ac mae’r actor o Lanelli, Keith Allen, yn chwarae un o’r hen rocars.