Dyma hi! 2024. Braf yfory fydd cael ei chwmni: Eleni.
Bydd hon yn debyg iawn i Llynedd, ond yn gwbl wahanol.
Bydd Eleni yn troi’n Llynedd, a’n Llynedd yn Eleni, gyda throad y ddeuddegfed awr.
Ta waeth! Dyma hi. Braf, yfory, fydd cael ei chwmni: Eleni.
Pan fydd hon wedi cyrraedd, hon fydd piau ni. Yfory, cydia hon yn ein llaw, cydia’n dynn, dynn.
Pan fydd hon yn cerdded yn araf, byddwn ddoeth; a hithau’n mynnu ein harafu: arafwn.
Pan fydd hon yn cerdded yn gyflym, byddwn ddygn; a hithau’n mynnu ein prysuro: prysurwn, prysurwn i gyflawni gwaith heddiw tra’i bod hi’n heddiw.
Eleni? Pa fath un fydd hon?
Bydd gan Eleni, fel Llynedd ei chymeriad unigryw ei hun.
Ai ‘caled’ fydd Eleni? ‘Creulon’ efallai? ‘Cymeradwy’?
Onid camarweiniol yw sôn am Eleni ‘piau ni’? Onid camgymeriad yw meddwl am hon yn ein harwain ni, a ninnau o’r herwydd, ond yn medru dyfalu i ble’r awn yn ei chwmni; hithau yn ein tynnu, ein gwthio o hyd, yn union fel Llynedd? Onid yw Eleni yn disgwyl – dyheu efallai – am gael ei harwain gennym ni?
Yfory, cydiwn yn llaw ein Heleni, syllwn i fyw ei llygaid disglair, a gofyn: I ble’r awn ni? Beth allwn ni ein dau gyflawni gyda’n gilydd, er gogoniant yr Hwn sydd piau ni’n dau?
Pe bai ti, fi ac Eleni yn medru annog ein gilydd i fanteisio ar bob cyfle i gyhoeddi newyddion da i’r tlodion, i gysuro’r ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, a gollyngdod i garcharorion…
Pe baen ni’n tri yn medru cyd-weithio er mwyn cysuro’r galarus ymhell ac agos, gan estyn i bobol Dduw ogoniant gobaith yn lle lludw diflastod, olew newydd llawenydd yn eli ar hen, hen ddolur; dillad glân cymdeithas ac addoliad yn lle carpiau unigedd a digalondid.
Dychmygwch. Pe bawn yn medru ailadeiladu hen adfeilion gwleidyddiaeth war; cyfodi diwylliant a fu’n anghyfannedd; atgyweirio dinasoedd diffaith ffydd a chred, gan beri i gyfiawnder darddu yn ein calonnau fel Cymry … dychmygwch … Eleni, bydd blwyddyn gymeradwy’r Arglwydd, blwyddyn gymeradwy’r Arglwydd yn ein bywyd a’n profiad ni.