Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn annog pobol i roddi anrhegion Nadolig nad oes eu hangen arnyn nhw i’r elusen, er mwyn helpu i ariannu rhagor o ymchwil.
Ar ddechrau blwyddyn newydd, bydd pobol yn dechrau rhoi trefn ar eu cartrefi ar ôl y Nadolig ac yn lluchio anrhegion nad oes eu hangen arnyn nhw neu sydd ganddyn nhw eisoes.
Boed yn siwmper neu’n gêm fwrdd, byddai Sefydliad Prydeinig y Galon yn croesawu ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion.
Mae modd lawrlwytho label postio rhad ac am ddim, neu fynd â’r rhoddion i’r siop leol.
Drwy wneud hyn, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn atal dros 56,000 tunnell o nwyddau rhag mynd i’r domen sbwriel bob blwyddyn.
Manteision eang
“Gall rhoddi i elusen a thacluso gynyddu’r dopamin yn eich ymennydd, ac fe all eich helpu chi i ddianc rhag y felan ym mis Ionawr,” meddai Dr Helen Nuttall, llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon.
“Gyda phrisiau’n parhau i godi, mae’n bwysig cadw silffoedd siopau elusennol yn llawn ar gyfer y rhai y gall fod eu hangen nhw arnyn nhw.
“Felly os oes yna anrhegion Nadolig ar hyd y lle na fyddwch chi’n eu defnyddio, ystyriwch eu rhoddi nhw i’ch Sefydliad Prydeinig y Galon lleol.”
Dywed Allison Swaine-Hughes, Cyfarwyddwr Manwerthu’r elusen, maen nhw’n ddibynnol ar roddion at ddibenion ymchwil.
Cyngor
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol i helpu pobol i ymdopi â thacluso ar ôl y Nadolig:
- Gofynnwch am gymorth gan y teulu cyfan
- Dechreuwch yn fach, gan fynd ati fesul dipyn i dacluso
- Lluniwch amserlen ar gyfer tacluso