Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi ei Neges Blwyddyn Newydd olaf cyn camu o’r neilltu yn ystod 2024.


Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Gobeithio i chi gael Nadolig hapus a heddychlon.

Ar ddiwedd blwyddyn arall, ac ar drothwy 2024, mae’n naturiol meddwl am y dyfodol.

Dyma’r amser i wneud cynlluniau am y flwyddyn.

Addunedau blwyddyn newydd.

A meddwl am y newidiadau sydd i ddod.

Wrth gwrs, bydd y flwyddyn hon yn dod â newid personol mi. Hon fydd fy neges Blwyddyn Newydd olaf i fel Prif Weinidog Cymru.

Ond, tan hynny, byddaf yn canolbwyntio ar y job sydd gen i, ac yn delifro ar fy addewidion i chi.

Ar droad y flwyddyn, ein gobaith yw gweld diwedd ar y rhyfela erchyll a’r trais ofnadwy a welsom eleni a’r llynedd, yn enwedig yn Wcráin.

A rhaid i’r ymladd stopio yn y Dwyrain Canol. Rhaid i ni weithio’n galetach i ffeindio llwybr at heddwch parhaol sy’n rhoi tegwch i bobol Palesteina ac Israel.

Mae Dydd Calan bob amser yn cynnig dechrau newydd, a dw i’n siŵr bod gan bawb ei obeithion ei hun am y flwyddyn hon.

Ond dwi’n siŵr hefyd bod pob un ohonom yn gobeithio am heddwch ac amseroedd gwell yn 2024.