Nid llesol gor-gyffredinoli. Wedi cydnabod hynny, dw i am fentro gor-gyffredinoli! Gellid gosod pobol naill ochr neu’r llall i’r ymadrodd syml, gymhleth: ‘Dw i’n dy garu di’. I rai, mae’r geiriau hyn yn llifo’n esmwyth fel dŵr; hawdd iawn iddyn nhw yw datgan eu cariad ar lafar, ac o’r herwydd gwneir hynny’n aml. I’r gwrthwyneb, mae’r geiriau hyn fel tân i rai; o’r herwydd, prin os o gwbl, mae’r geiriau’n cael eu dweud ar goedd.

Cawn fynegi cariad – yn gall – yn anodd iawn. Mae hyn yn rhyfedd – yn boenus o ryfedd – gan fod y rhan fwyaf helaeth ohonom yn iawn a llawn sylweddoli mai caru a chael ein caru yw gwraidd a phren bywyd – dail yw pob peth arall. Mi gredaf fod Victor Hugo (1802-1885) wedi mynegi’r gwirionedd hwn yn dwt a chymen yn y frawddeg hon o Les Miserables:

“The supreme happiness of life is the conviction that we are loved: loved for ourselves, loved in spite of ourselves.”

Angen gwaelodol pob enaid byw yw gwybod fod rhywun yn ein caru, yn ein derbyn am yr hyn ydym. Eironi fwyaf creulon ein byw yw fod cynifer ohonom yn cael y fath anhawster i fynegi ein cariad, ac i glywed a derbyn mynegiant gan eraill o’u cariad hwythau tuag atom.

Beth sydd wrth wraidd hyn, tybed? Amheuaeth efallai: a ydym yn amau ein bod ni’n llawn haeddu cariad gan arall neu eraill? Ac onid trwch adain gwybedyn sydd rhwng amau ein hunain ac amau arall: os nad wyf fi’n haeddu dy gariad di, a wyt ti’n haeddu fy nghariad innau?

Ta waeth, diolch byth am y Nadolig. Mi wn yn iawn am yr holl hynt a helynt a ddaw yn sgil ein dathlu ninnau o’r Ŵyl, ond erys neges y Nadolig yn gysur ac yn her: Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef (Ioan 3:16 a 17. WM) Mae Duw yn ein caru; yn dy garu di, yn fy ngharu i, yn caru pob ‘fi’ a ‘ti’ ym mhob man. Diben y cariad mawr hwn yw dysgu ein cariad ninnau.

Ffôl ydym. Er cael cynnig y rhagorol, mynnwn mai’r gweddol yw ein haeddiant, ac o dderbyn hynny, dim ond y gweddol sydd gennym i’w gynnig i eraill.

Dw i’n credu weithiau mai mater o feistroli iaith arbennig yw bywyd yn y bôn.

Mae’r fath beth â iaith ‘Prynu a Gwerthu’. Sylfaen pob perthynas yw’r balance-sheet, a’r cwestiwn llosg yw: Beth sydd mewn llaw? Nid oes gan ‘Brynu a Gwerthu’ mo’r geiriau i fynegi cariad.

Iaith arall yw ‘Gwobrwyo a Chosbi’. Gweld bywyd fel rhyw fath o Lys Barn yw hyn, a rhannu pawb i ddau ddosbarth: y Teilwng a’r Annheilwng. Nid oes gan ‘Wobrwyo a Chosbi’ air sy’n cyfateb i ‘gariad’.

Myn y Nadolig mai ‘Rhoi a Derbyn’ yw iaith Duw. Haelioni Duw sydd yn amlwg. Duw yn rhoi. Os ydym am dderbyn ganddo ai peidio – Duw yn rhoi: Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab. Mesur bywyd yw mesur ein gallu i dderbyn fod Duw yn ein caru: loved for ourselves, loved in spite of ourselves.

O ddysgu’r iaith ‘Rhoi a Derbyn’, buasai mynegi ein cariad tuag at eraill gymaint haws.

O ddysgu ‘Rhoi a Derbyn’, haws o lawer fuasai clywed, derbyn a chredu bod pobol yn ein caru ninnau for ourselves … in spite of ourselves.

Ie, ffôl ydym. Er gwybod ohonom pob iaith, methwn yn llwyr â dysgu’r un iaith honno a fuasai’n ein galluogi i gyfathrebu go iawn â’n gilydd: iaith ‘Rhoi a Derbyn’.

Onid peth da eleni fuasai defnyddio cyfnod yr Adfent fel cwrs Wlpan?

Daw’r gair Wlpan o’r iaith Hebraeg, a’i ystyr yw ‘stiwdio’. Mae’r enw wedi cael ei fabwysiadu gan y cwrs dwys Cymraeg mwyaf llwyddiannus ers blynyddoedd lawer. Mae’r pwyslais ar feistroli Cymraeg sylfaenol, llafar yn gyflym.

Ein ‘stiwdio’ yw’r eglwys leol. Y cyfnod yw’r Adfent. Y nod yw meistroli ‘Rhoi a Derbyn sylfaenol’, ymarferol mor fuan ag sy’n bosib. Mi fyddaf yno; a ddowch chi hefyd tybed?