I bobol gynefin â thrychinebau, mae ambell drychineb yn rhoi gwaeth ysgytwad na’i gilydd i ni. Ddydd Sadwrn diwethaf (Hydref 14), cafodd pen-blwydd y danchwa ym Mhwll yr ‘Universal’ yn Senghennydd ger Caerffili yn 1913 ei nodi: cafodd 439 o ddynion a bechgyn eu lladd. Ddoe (Hydref 21), aeth 57 mlynedd heibio ers llithro rhan o’r domen lo yn Aberfan ger Merthyr Tydfil, a dinistrio tai a chladdu rhan o Ysgol Pant-glas. Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd yn y trychineb hwnnw.

Wedi’r naill drychineb a’r llall, cafodd Cymru ei tharo â mudandod trwm, fel y cafodd beirdd Cymru eu taro gan farw Llywelyn ar Ragfyr 11, 1282. Yn ein hen lenyddiaeth (ar wahân i’r Beibl efallai) y mae’r mynegiant gorau o’r mudandod llethol hwnnw a ddirwasgodd ein cenedl fis Hydref 1913 a 1966:

Stafell Gynddylan ys tywyll – heno

Heb dân, heb wely;

Wylaf wers, tawaf wedy.

Stafell Gynddylan ys tywyll – heno

Heb dân, heb gannwyll;

Namyn Duw pwy a’m dyry pwyll.

Stafell Gynddylan ys tywyll – heno

Heb dân, heb oleuad;

Elid am-daw amdanad.

Yn gymysg â’r ing a’r gwewyr ddaw yn sgil pob trychineb mae’r syndod am fawredd haelionus y galon ddynol. I Senghennydd ac Aberfan, ac i bob man lle bu trychinebau tebyg yn ddiweddarach, llifodd rhoddion o bob cwr o’r byd, a chan bob gradd o bobol i geisio cynnal a chefnogi’r galarus.

Ond saif angen dyfnaf y bobol rheini sydd yn weddill wedi’r trychineb, yn gwbl tu hwnt i allu arian i’w sicrhau. Y gymwynas fwyaf a allwn â phobol heddiw – sydd megis pobol Senghennydd 1913 ac Aberfan 1966 – wedi eu hamgylchynu â diflastod a thorcalon, yw troi ein cydymdeimlad yn eiriolaeth.

Awgrymog iawn yw’r llinell: ‘Elid am-daw amdanad‘. Os deallais y llinell yn iawn, gellid ei haralleirio fel hyn: “Deled mawr ddistawrwydd i’th amgylchynu”. Ie, mawr ddistawrwydd gweddi, a distawrwydd sylweddol sicrwydd ffydd.

Elid am-daw amdanad. Boed i ni, heddiw, droi ein cydymdeimlad â phobol Israel/Palesteina yn eiriolaeth; troi ein cydymdeimlad â’r bobol sydd yn dioddef yn sgil y rhyfela yn Wcráin, yn eiriolaeth; troi ein cydymdeimlad â phobol Haiti, Burkina Faso, Gogledd Swdan, Syria, Yemen, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Affganistan, Ethiopia, Somalia… yn eiriolaeth, er mwyn iddyn nhw ymdeimlo â choflaid cariad tragwyddol ein Duw. Estynnwn i Dduw yr hawl i ddefnyddio ein gweddïau gwael yn gyfryngau da i fynegi a gweithredu ei dosturi diwaelod yntau.

Elid am-daw amdanad. Dylid cofio hefyd nad pob trychineb sydd yn cael sylw’r cyfryngau. Mi gredaf fod y bardd Huw Jones yn codi cwestiwn pwysig, a’r cwestiwn hwnnw sydd yn cau pen y mwdwl ar y golofn hon:

A yw cannoedd o gyrff

Yn ein brawychu’n fwy nag un?

Oes rhaid i’r ddaear symud

Cyn ysgwyd ein bywydau ni?

(Barddas, Rhif 205 – Mai 1994)

Elid am-daw amdanad.