Mae aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi pleidleisio i ddod â streiciau prifysgolion i ben.

Pleidleisiodd 99% o’r 19,000 o bleidleiswyr o blaid rhoi terfyn ar yr anghydfod dros Gynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS).

Daw’r bleidlais â’r 69 diwrnod o streicio sydd wedi digwydd ers 2018 i ben.

Disgrifiodd Jo Grady, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, y cyhoeddiad fel “diwrnod tyngedfennol, nid yn unig i’n haelodau, ond i weithwyr ym mhobman”.

“Ar ôl 69 diwrnod o streicio mewn brwydr bum mlynedd i amddiffyn ein pensiynau, rydym wedi ennill ac ymhen misoedd bydd staff y brifysgol yn gweld cynllun pensiwn preifat mwyaf y Deyrnas Unedig yn adfer ein pensiynau’n llawn,” meddai.

“Am flynyddoedd, cafodd ein haelodau wybod bod yr hyn roedden nhw’n ei fynnu ar bensiynau yn amhosib.”

Dywed ei bod hi’n gobeithio y bydd y fuddugoliaeth yn ysbrydoli gweithwyr eraill sydd hefyd wedi gweld eu pensiwn yn cael ei dorri.

“Ond ni fyddwn yn stopio yma – mae’r ymroddiad a ysgogodd y frwydr bensiwn hon yr un mor ddwys pan mae’n dod i gyflog, llwyth gwaith a sicrwydd swydd,” meddai.

“Ni fyddwn yn stopio nes i ni greu sector addysg uwch sy’n gwerthfawrogi ei holl staff.”

Talu llai a chael mwy yn ôl

Bellach, mae buddion pensiwn am gael eu hadfer erbyn Ebrill 1 y flwyddyn nesaf.

Bydd hyn yn cynyddu’r trothwy buddion diffiniedig o £40,000 yn ôl i’r fan lle y byddai wedi bod pe na bai newidiadau wedi’u gweithredu, sef tua £70,000.

Yn ogystal, bydd yn dileu’r cap o 2.5% y flwyddyn ar godiadau pensiwn cyn ac ar ôl ymddeol, fydd yn amddiffyn pensiynau’n well yn erbyn chwyddiant.

Bydd taliad pensiwn untro ychwanegol o ryw £900m yn helpu i wneud yn iawn am yr arian mae aelodau wedi’i golli ers mis Ebrill y llynedd.

Golyga hyn y bydd £16-18bn ychwanegol yn mynd i mewn i gronfeydd pensiwn bellach.

Mae’r cytundeb hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno cyfraddau cyfraniadau newydd cyn gynted â mis Ionawr.

Mae hyn yn debygol o ddod â chyfraniadau gweithwyr i lawr o 9.8% i 6.1%, gan roi mwy o arian ym mhocedi aelodau’r undeb.

Bydd y newidiadau’n golygu bod aelodau’r USS yn talu llai i mewn i’w pensiynau, ac yn derbyn llawer mwy trwy gydol eu hymddeoliad.