Mae gweinidogion o Gymru ac Iwerddon wedi ymweld â pharc gwyddoniaeth M-SParc heddiw (dydd Gwener, Hydref 20), er mwyn clywed am eu prosiectau a’r cydweithio rhwng y ddwy genedl.
Roedd Simon Harries, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth Iwerddon, a Lesley Griffiths, Gweinidog Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Cymru, yn bresennol.
Yn ôl Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Chymuned M-SParc, mae cysylltiadau cryf rhwng Cymru ac Iwerddon o fewn y byd gwyddonol.
“Rydan ni’n gwneud lot efo Iwerddon, ac maen nhw’n agosach aton ni mewn ffordd na Llundain,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw’n gwneud lot o arloesi sy’n debyg iawn i Gymru, ac fel ni mae ganddyn nhw ddwyieithrwydd yn mynd ymlaen yn eu gwaith bob dydd, ac maen nhw’n iaith leiafrifol.
“Rydyn ni’n gwneud lot i ddysgu gan ein gilydd, nid yn unig sut mae’n busnesau ni’n gweithio ond sut mae’r iaith yn gweithio mewn busnes bob dydd.”
“Dim rheswm” peidio defnyddio Cymraeg yn y gweithle
Er gwaethaf rhagdybiaethau, dywed Emily Roberts nad yw gweithio trwy’r Gymraeg yn sialens pan ddaw i’w gwaith bob dydd.
“Dw i’n meddwl bod pobol yn pryderu ei fod o [yn broblem], ond mae yna dermau i bob dim yn y Gymraeg ac os ydych chi’n gwneud eich addysg drwy’r Gymraeg, y termau Saesneg ydi’r rhai newydd a diarth,” meddai.
“Felly, os ydych chi’n astudio yn y Gymraeg mae’n ddigon hawdd i’w dysgu nhw.
“Hefyd, rydyn ni i gyd yn maddau i’n gilydd, i jest dweud y gair Saesneg os ydych chi ddim yn gwybod y term.
“Felly, dydy hynny ddim yn rheswm i beidio â defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn ein gwaith.”
Roedd yr ymweliad yn gyfle i barhau i ddatblygu cysylltiadau Cymreig-Gwyddelig, a bydd M-SParc yn ymweld ag Iwerddon eto yn y flwyddyn newydd, er mwyn parhau i ddatblygu cyfleoedd cydweithio er mwyn gyrru economi Cymru yn ei blaen.
Dysgu gan Gymru
Yn ystod yr ymweliad, dywedodd Simon Harries fod Iwerddon yn edrych ac yn dysgu oddi wrth Gymru pan ddaw i ieithoedd lleiafrifol.
“Rydym yn edrych atoch chi (Cymru) o amgylch ieithoedd lleiafrifol, rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ac yn gallu dysgu oddi wrthych chi,” meddai.
“Dyna faes ar draws y llywodraeth i gydweithio arno.”
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, fod y cysylltiad rhwng Cymru ag Iwerddon “yn un cryf y byddwn yn parhau i’w feithrin”.
“Roedd yn wych gallu rhannu ein gwaith sgiliau gyda’r gweinidogion, a dangos sut rydym yn cefnogi ein tenantiaid i greu swyddi sy’n talu’n dda y gall graddedigion o Brifysgol Bangor a phobol leol fanteisio arnyn nhw,” meddai.
“Mae hyn i gyd yn cael ei wneud, wrth gwrs, drwy’r Gymraeg, ffactor arall rydyn ni’n ei ystyried yn gryfder, a braf oedd gweld Gweinidog Iwerddon yn dathlu hyn hefyd.”