Mae cynghorydd lleol yn Sir y Fflint yn rhybuddio pobol i beidio â theithio oni bai bod rhaid, gan egluro wrth golwg360 pa fesurau sydd ar waith i gadw trigolion y ddinas yn ddiogel.
Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a llifogydd fydd mewn grym tan fory (dydd Sadwrn, Hydref 21).
Mae Alasdair Ibbotson yn cynrychioli Penyffordd, Penymynydd a Dobshill, ac mae hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
“Mae Penyffordd wedi cael ei tharo’n wael gan y tywydd dros nos, sy’n edrych i barhau am y diwrnod wedyn,” meddai.
“Mae ffordd osgoi’r A550 wedi ei chau oherwydd llifogydd, gan orfodi traffig drwy’r pentref ac arwain at oedi o hyd at 40 munud i siwrneiau; hefyd, mae lefel sylweddol o lifogydd o fewn y pentref wrth i’r draeniau ymdrechu i ymdopi.
“Fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau adnoddau brys i helpu i ddiogelu eiddo, a chael dargyfeiriadau priodol yn eu lle i osgoi anhrefn traffig yng nghanol Penyffordd.
“Gall trigolion lleol helpu orau drwy osgoi unrhyw deithio nad yw’n hanfodol a lleihau’r swm cymaint â phosibl o ddŵr sy’n cael ei roi mewn draeniau a charthffosydd cyfun o ddefnyddiau cartref, fel peiriannau golchi dillad neu beiriannau golchi llestri, nes bod y tywydd gwaethaf drosodd.
“Yn y tymor hwy, mae angen gofyn cwestiynau difrifol am allu ein seilwaith i ymdopi â thywydd eithafol.
“Mae effaith newid hinsawdd eisoes i’w deimlo, wrth i’n tywydd fynd yn fwy eithafol, a thywydd eithafol yn digwydd yn amlach.
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio i fynd i’r afael â hyn gydag ymchwiliad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd rwy’n ei gadeirio yn cymryd tystiolaeth ysgrifenedig yn gynharach eleni, a byddwn yn gwahodd tystiolaeth lafar yn yr ychydig wythnosau nesaf.
“Heb ragfarnu canlyniad yr ymchwiliad hwnnw, rwy’n credu’n gryf bod angen mwy o fuddsoddiad i amddiffyn ein cymunedau rhag effaith newid hinsawdd, ac mae cwestiwn byw ynghylch o ble y dylai’r arian hwnnw ddod.
“Rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru helpu i sicrhau bod cyllid ar gael i helpu Cymru i addasu i’r realiti newydd rydym yn canfod ein hunain ynddo.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd wrth helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, a gall wneud yr un peth wrth fynd i’r afael ag effaith yr argyfwng hinsawdd mae Cymru yn ei wynebu nawr.”
Problemau i deithwyr
Fore heddiw (dydd Gwener, Hydref 20), mi wnaeth Stephen Houghton o Benyffordd geisio gyrru draw i Brifysgol Wrecsam, lle mae’n fyfyriwr, a bu raid iddo droi yn ôl gan fod y ffyrdd wedi’u cau.
“Mae’r brifysgol ar agor, dw i’n meddwl, ond roedd y ffyrdd ar gau ym Mhenyffordd a’r Wyddgrug,” meddai wrth golwg360.
“Wnes i drio gyrru i Wrecsam trwy’r Wyddgrug – amhosib ar y pryd, sef tua 10yb.”
Mae Stephen Houghton yn ei flwyddyn gyntaf ar gwrs Cynhyrchu Cerddoriaeth ac mae’n dweud ei fod yn mwynhau’n arw.
Ond gan na all e fynychu’r campws heddiw, mae’n dweud ei fod am wneud rhywfaint o waith adref, “bach o ddysgu ac efallai sgwennu traethawd”.
Mae e wedi dysgu Cymraeg, ac yn aelod o Glwb Clebran y Saith Seren.
“Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn 2012,” meddai.
“Wnes i rhoi’r gorau iddi, ond dechrau eto y llynedd, ar ôl mynd i’r Clwb Clebran.”
Taith gerdded Gwyl Daniel Owen
Yn y cyfamser, roedd pwyllgor Gŵyl Daniel Owen yn y Wyddgrug wedi trefnu taith gerdded dywysedig i Ros Hafod a Phantybuarth gyda’r grwp ‘Walkabout Flintshire’, ond daeth neges ar Facebook yn dweud bod honno wedi’i chanslo oherwydd y tywydd.