Mae Cyngor Gwynedd wedi talu teyrnged i Eirwyn Williams, cynghorydd sir yng Nghricieth, fu farw yr wythnos hon.
Bu’n cynrychioli’r ward ers 2012.
Bu’n aelod presennol ac yn gyn-gadeirydd y Pwyllgor Iaith, ac yn aelod o Bwyllgor Ardal Dwyfor ymysg pwyllgorau a gweithgorau eraill.
Bu hefyd yn aelod ffyddlon o Gyngor Tref Cricieth am dros 45 mlynedd.
Roedd yn gyn-lywodraethwr ar Ysgol Treferthyr, ac yn gefnogwr brwd o’r gwaith i godi ysgol gynradd newydd yn y dref.
‘Cyfaill i lawer ac yn uchel ei barch’
Gyda thristwch y clywodd Cyngor Gwynedd am farwolaeth Eirwyn Williams, yn ôl y cadeirydd Medwyn Hughes.
“Roedd Eirwyn yn ŵr bonheddig a wasanaethodd ei ardal yn driw am flynyddoedd,” meddai.
“Roedd yn gyfaill i lawer ac yn uchel ei barch ymysg cynghorwyr ar draws y Cyngor.
“Roedd bob amser am weld y gorau i’w fro ac i’r sir.
“Rydym yn meddwl am ei deulu yn eu profedigaeth.”