Bydd menywod yn meddiannu’r Senedd heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 21) i ysbrydoli mwy i fentro i fyd gwleidyddiaeth.
Mae ‘Lle i Ni: Diwrnod Menywod yn y Senedd’ yn cael ei gynnal er mwyn dod â menywod ynghyd, a bydd yn cynnwys sgyrsiau, trafodaethau a gweithdai gan rai o arweinwyr gwleidyddol Cymru.
Y nod yw ysgogi trafodaeth am gynrychiolaeth gyfartal, ac ysbrydoli mwy o fenywod i ddod yn arweinwyr mewn bywyd cyhoeddus.
Yn rhan o’r diwrnod, bydd Aelodau o’r Senedd, ynghyd ag arweinwyr eraill o fyd gwleidyddiaeth a’r sector gyhoeddus, yn rhannu profiadau ac yn annog trafodaeth ar sicrhau cynrychiolaeth gyfartal.
“Ugain mlynedd ers pan ddaeth y Senedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhywiol ymhlith ei haelodau, mae cymaint o waith i’w wneud o hyd,” meddai Elin Jones, Llywydd y Senedd ac Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Geredigion.
“Mae’r digwyddiad Lle i Ni yn cynrychioli gweledigaeth o Gymru lle mae nid yn unig mwy o’n harweinwyr a’n deddfwyr yn fenywod, ond yn arbennig menywod â nodweddion gwarchodedig, boed yn fenywod anabl, menywod o gefndir ethnig lleiafrifol, neu fenywod LHDTC+.
“Diolch i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Elect Her am weithio gyda’r Senedd i drefnu diwrnod llawn syniadau mawr, sgyrsiau ysbrydoledig, a chyngor ymarferol gwerthfawr ar sut i gymryd eich cam nesaf tuag at sefyll mewn etholiad.”
‘Dathliad o bŵer menywod’
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Jane Hutt a Hannah Blythyn, sy’n weinidogion yn Llywodraeth Cymru; Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru; yr Aelod o’r Senedd Sioned Williams; a’r Aelod Seneddol Fay Jones.
Hannah Stevens o Elect Her fydd yn cadeirio’r drafodaeth, a dywed mai’r uchelgais yw meithrin cymuned amrywiol o fenywod Cymreig er mwyn “eu grymuso a’u cefnogi i sefyll am swydd wleidyddol a chynrychioli eu cymunedau”.
“Mae Lle i Ni yn ddathliad o bŵer menywod mewn gwleidyddiaeth, gan ddwyn ysbrydoliaeth o’u cyflawniadau i rymuso eraill i wneud eu marc,” meddai.
“Mae’r sesiwn agoriadol yn y Siambr yn gosod y safon ar gyfer diwrnod creadigol o gymuno a thrafod.”
‘Diwrnod bythgofiadwy’
Ychwanega Victoria Vasey, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, ei fod yn “gyfle amhrisiadwy” i fenywod ledled Cymru ddod ynghyd i sgwrsio a chynnal gweithdai i hybu cyfartaledd mewn sefydliadau gwleidyddol.
“Bydd y diwrnod bythgofiadwy hwn yn rhoi ysbrydoliaeth, rhwydweithiau ac offer newydd i ystod amrywiol o fenywod o bob rhan o Gymru i symud ymlaen mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus, lle bynnag y bônt ar eu taith wleidyddol,” meddai.
“Er mwyn i’n gwleidyddiaeth fod yn gynrychioliadol, mae angen mwy o fenywod mewn swyddi sy’n llywio penderfyniadau – yn enwedig y rhai o’r cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli fwyaf gan gynnwys menywod o liw, menywod anabl, a menywod LHDTC+.
“Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i wireddu hyn, ond wrth i’r cynlluniau symud ymlaen ar gyfer diwygio’r Senedd, mae’r diwrnod hwn yn ddatganiad cryf fod hwn yn Le i Ni.”
Bydd y sesiwn yn cael ei ffrydio’n fyw ar senedd.tv, ac mae’n bosib i unrhyw un wylio.