Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi mynegi pryder fod pobol yn cael eu hatal rhag siarad Cymraeg, ac yn dweud ei bod hi eisiau gweld gwell gwasanaethau llafar Cymraeg.

Yn ei hadroddiad sicrwydd cyntaf ers dod yn Gomisiynydd, mae Efa Gruffudd Jones yn annog sefydliadau nid yn unig i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond i’w hyrwyddo nhw hefyd.

Mae’r adroddiad ‘Codi’r Bar’ yn gyfle i adlewyrchu ar y ffordd mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.

Er ei bod yn cydnabod bod lefelau cydymffurfiaeth yn gyffredinol wedi gwella, yn enwedig ymysg cyrff sydd wedi dod o dan Safonau’r Gymraeg ers cryn amser, mae’r adroddiad yn nodi bod angen mynd i’r afael â’r her o greu awyrgylch lle mae modd defnyddio’r Gymraeg yn naturiol bob dydd.

Mae hyn yn golygu gwella’r gwasanaethau gaiff eu cynnig ar lafar i bobol, boed hynny dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae’r gweithle yn allweddol o safbwynt yr iaith.

“Mae twf mewn addysg Gymraeg yn hanfodol ond mae angen sicrhau hefyd fod cyfleoedd i’n pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith wedi hynny,” meddai’r Comisiynydd.

“Mae’n braf gweld fod gwasanaethau ysgrifenedig Cymraeg ar gael yn helaeth, ond prin yw’r cynnydd yn y gwasanaethau llafar sydd ar gael, sef yr hyn mae pobol yn ei ddweud maen nhw ei eisiau yn fwy na dim.

“Rwy’n cydnabod fod recriwtio er mwyn cyflenwi’r gwasanaethau hyn yn medru bod yn heriol, ond mae angen rhoi mwy o bwys ar y Gymraeg fel sgil ac rwy’n annog sefydliadau i greu strategaethau cynllunio gweithlu dwyieithog.”

Ymysg y canfyddiadau eraill o’r adroddiad mae’r ffaith fod:

  • 95% yn derbyn cyfarchiad yn y Gymraeg wrth wneud galwad ffôn i sefydliad cyhoeddus
  • 90% o negeseuon Twitter a Facebook sefydliadau cyhoeddus ar gael yn Gymraeg
  • y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn 33% o’r tudalennau gwefan gafodd eu harolygu dros y flwyddyn
  • 72% yn cytuno bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella
  • bron i 75% o siaradwyr Cymraeg yn gweld bod cyfle iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Atal y gallui siarad Cymraeg yn “hollol annerbyniol”

“Elfen bryderus arall” ddaeth i’r wyneb, meddai Efa Gruffudd Jones, yw fod canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg wedi cael profiad o rywun arall yn eu hatal nhw rhag siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd.

Nododd 18% eu bod nhw wedi profi hyn dros y deuddeg mis diwethaf, ond roedd hynny’n cynyddu i 29% o bobol rhwng 16 a 34 oed gafodd eu holi.

Mae hon yn sefyllfa hollol annerbyniol, yn ôl Efa Gruffudd Jones.

“Mae’r math hwn o negyddiaeth tuag yr iaith Gymraeg, heb os, yn effeithio ar hyder siaradwyr Cymraeg ac yn siŵr o gael effaith ar lefelau defnydd o’r Gymraeg,” meddai.

Ond mae hi o’r farn fod gan sefydliadau awydd i wella yn barhaus,

“Ers cychwyn yn y swydd hon ddechrau’r flwyddyn rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda nifer fawr o’n rhanddeiliaid ac mae’r agwedd yn gyffredinol yn gadarnhaol tuag at y Gymraeg,” meddai.

“Hoffwn weld pob sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau fod egwyddorion Mesur y Gymraeg wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn eu sefydliadau a’u bod hefyd yn gosod arweiniad sy’n croesawu’r defnydd o’r Gymraeg

“Byddaf yn parhau i fonitro ac yn ymyrryd lle bo angen gan gynnig cymorth ac arweiniad er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog i’n gwasanaethau cyhoeddus.”