Mae Cyngor Sir Conwy wedi pleidleisio o blaid codi premiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o fis Ebrill 2024.
Daw’r penderfyniad terfynol ar ôl i’r Cabinet gytuno’n gynharach y mis hwn hefyd, ac mae’n cynnwys lefel premiwm mynegol o 200% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o Ebrill 1, 2025.
Ar yr un pryd, bydd premiwm uwch o 300% yn cael ei gyflwyno ar gyfer eiddo fu’n wag ers pum mlynedd neu fwy, yn ddibynnol ar adolygiad yn ystod 2024-25.
Y gobaith yw y bydd y premiwm yn helpu i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd, gan gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, gwella cynaladwyedd cymunedau, a helpu i ddiwallu anghenion tai y sir.
“Y broblem” yng Nghonwy
Dywed y Cynghorydd Goronwy Edwards fod oddeutu 1,400 o eiddo gwag hirdymor yng Nghonwy, a thros 1,000 o ail gartrefi.
Mae o wedi egluro pam ei fod yn cefnogi’r cam.
“Ar yr un pryd, mae gennym ni oddeutu 2,000 o bobol ar y rhestr aros am dai, ac mae gennym ni 500 o bobol mewn llety brys,” meddai.
“Felly medrwch chi weld y broblem sy’n bod yng Nghonwy.
“Felly gobeithio y bydd hyn yn annog rhagor o dai i ddod ar gael.”
Mae’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, yr arweinydd, yn cytuno ac er ei fod yn cydnabod fod twristiaeth yn bwysig i’r economi, dywedodd fod teuluoedd yn byw mewn tai yn cynhyrchu mwy o arian na pherchnogion ail gartrefi.
“Bydd yna rai pobol fydd yn defnyddio [eu heiddo] fel ail gartref yn unig, ac sydd ddim yn dŵad yn gyson,” meddai.
“Bydd yna rai pobol yn dŵad yn gyson.
“Bydd yna rai pobol fydd yn eu rhoi nhw ar rent.
“Ond mae yna ystod yno.
“Mae llawer o’r gwrthwynebiadau’n ymwneud â ‘Dw i’n gwario arian yn y siopau lleol’ – wel, byddwn i’n dadlau fy mod i yma 51 wythnos y flwyddyn, felly hefyd fy nheulu, a dw i’n gwario’r arian yna bob un wythnos.
“Dw i’n credu bod hynny’n fwy buddiol na rhywun sydd yma’n achlysurol.”
‘Gwahaniaeth mawr’
Ond dydy’r Cynghorydd Louise Emery ddim yn cytuno.
“Dw i’n credu bod yna wahaniaeth mawr rhwng tai gwag ac ail gartrefi,” meddai.
“Dw i’n deall bod rhai tai gwag yn sownd wrth brofiant neu ddadlau ac sydd wedi cael eu hetifeddu gan deuluoedd, ac all neb gytuno, ac maen nhw’n diweddu i fyny’n mynd yn wag am y cyfnod hwnnw.
“Ond fe fu rhai tai yn Llandudno’n wag ers blynyddoedd, a dydy hi jyst ddim yn gwneud synnwyr.
“Felly yn nhermau tai gwag, dw i’n ryw fath o gefnogi 100%, ond pan ddaw i ail gartrefi, dw i’n credu ein bod ni wedi mynd yn ddigon pell.
“Fe wnes i bleidleisio dros 50% y llynedd oherwydd dw i’n credu bod hynny’n deg.
“Rydym yn cymryd fod pob person sydd ag ail gartref yn gyfoethog, ond does gennym ni fawr o dystiolaeth ar gyfer hynny.
“Dydyn ni ddim yn gweld eu cyfrifon banc, nac ydyn?”
‘Pwrpas tŷ yw bod yn gartref’
Ond fe wnaeth y Cynghorydd Austin Roberts anghytuno.
“Wedi’r cyfan, pwrpas tŷ yw bod yn gartref,” meddai.
“Rydym yn galw’r tai hyn yn ail gartrefi, ond dydyn nhw ddim yn gartrefi. Dyna ydi’r pwynt.
“Oherwydd os ydi rhywbeth yn gartref, yna mae rhywun yn byw ynddo fo.
“Dw i ddim bob amser yn anghytuno efo’r Cynghorydd Louise, ond dw i’n mynd i anghytuno y tro yma.
“Mae’n hawdd iawn i chi ddweud nad yw pobol sy’n berchen ar ail gartrefi’n gyfoethog, a fedrwch chi ddim gweld faint sydd ganddyn nhw yn y banc.
“Ond mi ddyweda i un peth wrthych chi – mae’r hyn sydd yn eu banc nhw dipyn gwell na rhywun sy’n methu fforddio unrhyw dŷ.”
Daw’r penderfyniad diweddaraf ar ôl i’r Cyngor gytuno fis Rhagfyr y llynedd i godi premiwm treth gyngor o 50% ar gyfer ail dai a chartrefi gwag hirdymor o Ebrill 2023.
Cafodd lefel mynegol o bremiwm o 100% ar gyfer ail gartrefi a thai gwag hirdymor ei argymell ar gyfer 2024-25, yn ddibynnol ar adolygiad yn 2023-24.