Mae Llywodraeth Catalwnia wedi lansio ymgyrch hysbysebu ryngwladol i geisio annog gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi eu hymgais i wneud y Gatalaneg yn iaith swyddogol.

Bydd hysbysebion yn y 24 iaith sy’n swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu harddangos ar strydoedd ac yn y cyfryngau, gan gyflwyno’r prif resymau dros yr ymgyrch.

Wrth lansio’r digwyddiad ym Mrwsel ddydd Gwener (Hydref 20), tynnodd Meritxell Serret, y Gweinidog Tramor, sylw at y “cyfoeth o ieithoedd a diwylliannau” yn yr Undeb Ewropeaidd, sy’n “biler hanfodol o’r prosiect Ewropeaidd”.

Ieithoedd eithriadol – yn ddi-eithriad

Arwyddair yr ymgyrch yw, ‘Os yw pob iaith yn eithriadol, boed i’r un fod yn eithriad yn Ewrop’.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys 24 set fideos – un ym mhob iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd – ac fe fydd y llywodraeth yn sicrhau bod un ar gael i bob unigolyn neu sefydliad sy’n dymuno ei derbyn.

Mae’n tynnu sylw at harddwch pob iaith a pha mor unigryw ydyn nhw, gan ddweud bod iaith yn “gartref”.

Mae’r fideo yn gofyn am gymorth i sicrhau bod y Gatalaneg yn dod yn iaith swyddogol.

Caiff y gynulleidfa eu cyfeirio at y wefan europaencatala.eu, lle gall pobol ddarllen y prif ddadleuon o blaid ei gwneud hi’n iaith swyddogol.

Mae’r hysbysebion eisoes wedi’u gosod mewn gorsafoedd ym Mrwsel, ond mae modd eu gweld nhw hefyd ar strydoedd Paris, Strasbourg, Rhufain, Dulyn a Berlin.

Mae disgwyl i’r hysbyseb ymddangos yn y wasg ar draws Ewrop.

Rhan o gyfres o gamau

Mae’r lansiad yn rhan o ymgyrch gafodd ei chyhoeddi yr wythnos ddiwethaf gan Pere Aragonès er mwyn cyflymu’r broses o gydnabod y Gatalaneg o fewn sefydliadau Ewropeaidd.

Ar wahân i’r ymgyrch hysbysebu, fe fu cyfarfodydd rhwng Meritxell Serret a chynrychiolwyr o nifer o wledydd ym Madrid ar Hydref 16 ac 17.

Ar yr un pryd, mae cynrychiolwyr o’r llywodraeth wedi cynnal sawl cyfarfod â chynrychiolwyr o’r 27 o wledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.

Ddydd Mawrth (Hydref 24), bydd y Cyngor Materion Cyffredinol yn Lwcsembwrg yn cynnal dadl unwaith eto ynghylch gwneud Catalaneg, Baseg a Galiseg yn ieithoedd swyddogol.

Mewn cyfarfod fis diwethaf, fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd ohirio’r penderfyniad ar wneud yr ieithoedd hyn yn swyddogol, a hynny yn dilyn “dadl adeiladol”.