Mae Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn 2023-28 yn rhan o “weledigaeth” y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gydweithio er mwyn sicrhau bod cymunedau’n ffynnu a’u bod nhw’n llewyrchus yn y tymor hir, yn ôl y cadeirydd.
Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws Gwynedd a Môn wedi dod at ei gilydd gyda’r addewid o gydweithio i liniaru effaith tlodi, buddsoddi yn nyfodol pobol ifanc, a gweithredu dros yr amgylchedd, ymysg materion eraill.
Cafodd Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28 ei lansio ym mhabell Cyngor Gwynedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst, a bydd partneriaid ar y bwrdd nawr yn bwrw ymlaen â chynlluniau i wireddu’r uchelgais.
Y Bwrdd a’r Cynllun
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn cynnwys y ddau Gyngor Sir, Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Bangor, Parc Cenedlaethol Eryri a nifer o fudiadau eraill.
Mae’r cynllun, a’r blaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod, yn dilyn ymgynghoriad eang ar y cynllun llesiant drafft gafodd ei gynnal yn gynharach eleni.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar dri amcan llesiant sy’n adlewyrchu’r negeseuon a’r adborth gafodd ei dderbyn, sef:
- cydweithio i liniaru effaith tlodi ar lesiant cymunedau
- cydweithio i wella lles a llwyddiant plant a phobol ifanc er mwyn gwireddu eu potensial llawn
- cydweithio i gefnogi gwasanaethau a chymunedau i symud tuag at Sero Net Carbon.
Y lansiad ym Moduan
Yn ystod y lansiad ar Faes y Brifwyl ym Moduan, roedd cyfraniadau gan Aled Jones-Griffith, cadeirydd y Bwrdd; Jacob Ellis o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; y Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn; y Cynghorydd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd; a Dafydd Gwynne o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Yn ôl Aled Jones-Griffith, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio er mwyn pobol a’r iaith Gymraeg.
“Mae gennym weledigaeth fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein cymunedau yn ffynnu ac yn llewyrchus i’r hir dymor,” meddai.
“Nod y Cynllun Llesiant yw gosod allan sut yr ydym am gyflawni hyn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Gwynedd a Môn.
“Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfle i rannu ymarfer da, hyrwyddo’r iaith a sicrhau bod gan drigolion y ddwy sir fynediad i holl wasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn cydweithio ar gynlluniau cyflawni ar gyfer y tri amcan i gyflawni uchelgais cyffredin ar gyfer yr ardal gyfan.
“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yma ac edrychwn ymlaen i ailymgysylltu gyda’r mudiadau a’r unigolion fu’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, yn ogystal â phobol o’r newydd, i sicrhau ein bod yn gwneud gwir wahaniaeth i lesiant trigolion y ddwy sir.”