Mae is-orsaf safle ynni llif llanw cyntaf Cymru wedi agor yn swyddogol ar Ynys Môn dros y dyddiau diwethaf.

Cafodd yr is-orsaf, sy’n gysylltiedig â chynllun ynni llanw Morlais, ei hagor yn swyddogol gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ddydd Gwener (Hydref 20).

Morlais, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi, yw’r cynllun ynni llanw mwyaf yng ngwledydd Prydain i gael caniatâd.

Unwaith y bydd yn weithredol, bydd gan y safle’r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel ac mae disgwyl i’r dyfeisiadau ynni llanw cyntaf gael eu defnyddio yn y môr yn 2026.

‘Pinacl’

Menter Môn, menter gymdeithasol ar yr ynys, sy’n gyfrifol am y datblygiad, ac mae’r agoriad, yng nghwmni Micheál Martin, Tánaiste (Dirprwy Brif Weinidog) Iwerddon, yn “binacl ar dros ddeng mlynedd o waith”, meddai.

“Rydym wedi wynebu llawer o heriau ar hyd y ffordd, ond diolch i natur benderfynol y tîm a chefnogaeth gan bartneriaid a chyllidwyr gallwn nawr edrych ymlaen at y cam nesaf yn natblygiad y cynllun,” meddai Gerallt Llewelyn Jones, sy’n gyfarwyddwr gyda Morlais.

“Fel prosiect Menter Môn, mae Morlais wedi’i wreiddio yn ein cymuned a’r economi leol.

“O’r diwrnod cyntaf rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo dyfodol ynni mwy cynaliadwy ac adnewyddadwy ac mae heddiw yn adlewyrchu ymroddiad y tîm.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld ein hymdrechion yn dwyn ffrwyth wrth i ni agosáu at gynhyrchu trydan oddi ar arfordir Ynys Môn.”

Nid Morlais eu hunain fydd yn cynhyrchu’r trydan yno, ond byddan nhw’n rhoi’r caniatâd ac isadeiledd i ddatblygwyr dyfeisiadau ynni llanw gyflenwi trydan i’r grid.

Mae pum datblygwr wedi cytuno ar gysylltiad o fewn y cynllun, ac mae trafodaethau gyda phump arall ar y gweill, medd Menter Môn.

Gweinidogion Llywodraeth a Prif Weinidog Cymru ar daith o amgylch safle newydd Morlais ger Ynys Lawd. Dafydd Gruffydd a Gerallt Llewelyn Jones yn y canol.

‘Arwain y ffordd’

Dywed y Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, fod y prosiect am “sicrhau bod yr ynys yn arwain y ffordd o ran ynni llanw”.

“Bydd hefyd yn parhau i ddarparu buddion economaidd lleol a rhanbarthol sylweddol drwy greu swyddi, gwella sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi,” meddai.

“Mae hefyd yn bwysig cydnabod y bydd prosiect Morlais yn ailfuddsoddi elw yn y cymunedau lleol hynny sy’n gartref i’r datblygiad.”

‘Ynni glân’

Ychwanega Mark Drakeford fod Morlais yn “brosiect arloesol sy’n rhan allweddol” o’r ymgais i drawsnewid i economi carbon isel.

“Mae’n enghraifft o’r math o ddatblygiad fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ein targedau sero net, ac yn tanlinellu pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith ynni glân ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai.