Mae dros 30 o sefydliadau a busnesau’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddirwyn cloddio am lo i ben yng Nghymru.

Maen nhw wedi llofnodi llythyr fydd yn cael ei roi i Julie James a Lee Waters, y Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn mynnu eu bod nhw’n cyhoeddi gwaharddiad.

Mae gan Lywodraeth Cymru bolisïau eisoes sy’n atal agor pyllau glo newydd ac ymestyn rhai sy’n weithredol eisoes, ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod y polisïau hynny’n ddryslyd ac yn cynnwys amodau.

Safle yn Sir Gaerfyrddin

Daw’r alwad am waharddiad clir lai na mis ar ôl iddi ddod i’r amlwg y byddai polisïau presennol wedi methu ag atal ailagor safle glo brig Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin.

Fe wnaeth Bryn Bach Coal Ltd gais i ddyblu maint y pwll glo dros gyfnod o chwe blynedd.

Byddai hynny’n golygu echdynnu 95,038 tunnell ychwanegol o lo, sy’n fwy na maint gwreiddiol y pwll, sydd â thrwydded ar gyfer 92,500 tunnell.

Fe wnaeth adran gynllunio’r Cyngor Sir argymell fod y cais yn bodloni eu polisi glo, ond cafodd y cais ei wrthod yn sgil yr effeithiau ecolegol posib.

Ond mae swyddogion cynllunio’n cyfaddef ei bod hi’n “anodd gwybod i sicrwydd sut i ddehongli’r polisi glo”.

Daw’r llythyr flwyddyn union ers i’r Alban gyhoeddi gwaharddiad ar gloddio am lo.

Yn ôl Daniel Therkelsen, ymgyrchydd sy’n aelod o’r Coal Action Network, fod gan Lywodraeth Cymru ddewis rhwng “alinio” eu hunain â “throeon trwstan” Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac “adfer ei safle fel arweinydd rhyngwladol ochr yn ochr â’r Alban, fel gwlad flaengar llawn hyder a sefydlogrwydd er mwyn i’r diwydiant gwyrdd gael ffynnu”.

Gwastraffu adnoddau

Mae Julie James eisoes wedi cydnabod fod adnoddau’n cael eu gwastraffu.

Ysgrifennodd hi lythyr at Lywodraeth y Deyrnas Unedig fis Hydref 2021 yn beirniadu’r sefyllfa o ran y polisi ar y pryd, lle’r oedd gofyn defnyddio cryn adnoddau wrth fynd i’r afael â cheisiadau.

Mae’r sefydliadau a’r busnesau sydd wedi llofnodi’r llythyr at Julie James a Lee Waters yn galw am waharddiad clir sy’n rhoi terfyn ar y dryswch gafodd ei nodi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Fis Medi y llynedd, fe wnaeth Merthyr (South Wales) Ltd gais i ehangu eu safle ond fe gafodd ei wrthod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru Bolisi Cynllunio sy’n dweud na ddylid derbyn ceisiadau ar gyfer pyllau glo brig newydd, ac mae angen i unrhyw gais nodi’n glir pam fod galw am bwll glo newydd yng nghyd-destun y bwriad i leihau allyriadau carbon yn unol â thargedau newid hinsawdd.

Dim ond o dan “amgylchiadau eithriadol” y byddai Llywodraeth Cymru’n rhoi trwydded ar gyfer safle newydd.

‘Jig-so o bolisïau’

“Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod eu safbwynt yn ‘glir’, eu bod nhw ‘eisiau dod â therfyn rheoledig i echdynnu a defnyddio glo’, ond mae eu jig-so o bolisïau ar lo mor glir â’r llwch glo sy’n parhau’n bla ar gymunedau sy’n byw yn ymyl pyllau yn ne Cymru,” meddai Daniel Therkelsen, sy’n ymgyrchydd gyda’r Coal Action Network.

“Tynnwch linell yn y tywod – gwaharddwch byllau glo newydd ac estyniadau.

“Does dim byd am waharddiad fyddai’n atal mynediad gan yr Awdurdod Glo i fynd i’r afael â materion diogelwch.”

Mae Climate Cymru’n dweud eu bod nhw am weld “Cymru’n rhydd rhag tanwyddau ffosil”.

“Dyna pam ein bod ni’n cefnogi gwahardd cloddio am lo ar dir Cymru,” meddai’r Pennaeth Sam Ward.

“Rhaid adfer tir gafodd ei ddefnyddio’n flaenorol ar gyfer cloddio, a rhaid i gymunedau fod yn rhan o’r drafodaeth ynghlch sut mae gwneud hyn.

“Mae angen eglurder arnom gan Lywodraeth Cymru y bydd glo yn aros yn y ddaear, a mabwysiadu gwaharddiad de facto fel sydd yn yr Alban fel nad oes unrhyw amwysedd.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau newydd ar gyfer y dyfodol, wedi’u cynhyrchu o ynni adnewyddadwy cartref, gan greu swyddi hirdymor a diogel ar gyfer pobol Cymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae ein safbwynt yn glir – rydyn ni am fynd ati, mewn ffordd a reolir, i atal echdynnu a defnyddio glo,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni yng nghanol argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, a rhaid i’r ymateb fod yn gyflym ac o ddifri, er mwyn gadael Cymru rydyn ni’n ymfalchïo ynddi i genedlaethau’r dyfodol.”