Mae disgyblion ym Mhrestatyn wedi plannu bron i 4,000 o flodau gwyllt er mwyn ceisio mynd i’r afael â cholli dolydd blodau gwyllt yng ngwledydd Prydain.
Ymunodd disgyblion Ysgol Bodnant â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i helpu i wella’r ddôl wrth ymyl Gerddi Bastion, drwy blannu bron i 4,000 o flodau gwyllt ar y safle.
Treuliodd dros 30 o ddisgyblion Blwyddyn 2 y prynhawn gyda staff y Cyngor yn ychwanegu’r planhigion i’r safle ac yn dysgu am bwysigrwydd diogelu natur leol ar gyfer y dyfodol.
Bwriad y prosiect yw helpu i fynd i’r afael â’r ffaith fod gwledydd Prydain wedi colli 97% o’u dolydd blodau gwyllt, sy’n golygu bod bron i 7.5m o erwau o gynefinoedd wedi’u colli ar gyfer peillwyr pwysig fel gwenyn a glöynnod byw.
Buddion i’r byd natur a’r gymuned
Yn 2019 y dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi yn y safleoedd cysylltiedig i gyd hyd yma.
Mae rhaglen wella ar draws dolydd blodau gwyllt y sir wedi’i chynnal i gefnogi’r gwaith o greu ardaloedd mwy lliwgar a bioamrywiol i natur a chymunedau lleol eu mwynhau.
Heb y cynefin hwn, byddai cefnogaeth i bryfed, peillwyr byd natur yn llai, a byddai hynny’n effeithio ar ein cadwyn fwyd ni ein hunain.
Gall pridd dolydd blodau gwyllt hefyd atafaelu cymaint o garbon â choetiroedd, gan leihau nwyon tŷ gwydr er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae’r buddion cymunedol eraill yn cynnwys gwella ansawdd aer, helpu i leihau llifogydd mewn ardaloedd trefol, oeri gwres trefol, helpu lles corfforol a meddyliol a meysydd amrywiol o ddiddordeb o ran addysg a chwarae.
‘Diolchgar i ddisgyblion Ysgol Bodnant’
“Mae’n bwysig nodi bod y dolydd blodau gwyllt hyn i bawb eu mwynhau a’u bod nhw’n helpu i greu coridorau sydd wedi’u cysylltu ar gyfer byd natur yn ein hardaloedd trefol fel y lleoliad gwych hwn ym Mhrestatyn,” meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth.
“Rydym ni’n gwybod bod llawer o’n hysgolion ni’n dilyn y prosiect hwn ac yn cymryd rhan ar eu safleoedd nhw eu hunain i greu ardaloedd gwyrdd bendigedig.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i ddisgyblion Ysgol Bodnant am roi eu cefnogaeth ragorol i helpu i dyfu’r ddôl hon yn ardal wych ar gyfer lles cymunedol a thwf natur leol.
“Mae’r dolydd hyn er lles trigolion a bywyd gwyllt fel ei gilydd i’w mwynhau nawr, ac yn bwysicaf oll, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o ddisgyblion ein sir sy’n helpu i’w tyfu nhw.”