Mae dros 500 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Gyngor Gwynedd i achub tir Tŷ’r Ysgol ym mhentref Llanrug ger Caernarfon.
Yn 2018, fe brynodd Cyngor Gwynedd dir Tŷ’r Ysgol, sy’n sefyll wrth ymyl Ysgol Gynradd Llanrug, gyda’r bwriad o ddatblygu’r ysgol yn dilyn ymgyrch gan y diweddar Gynghorydd Charles Wyn Jones.
Pan brynodd y Cyngor y tir, roedd caniatâd cynllunio amlinellol ar ran ohono i godi dau dŷ, ac yn Chwefror 2021 fe wnaeth Cyngor Gwynedd drosglwyddo plot a Thŷ’r Ysgol ei hun i’r Adran Eiddo o’r Adran Addysg er mwyn ad-dalu £150,000 o fenthyciad.
Yn ôl y trigolion, digwyddodd hyn heb ofyn i’r ysgol am eu hangenion, a thra doedd gan y pentref ddim cynghorydd i’w gynrychioli chwaith.
Wedi’i lleoli yng nghanol y pentref, Ysgol Gynradd Llanrug yw’r chweched ysgol gynradd fwyaf yng Ngwynedd, ac mae’n wynebu problemau megis parcio oherwydd ei capasiti uchel.
Mae’r trigolion bellach yn galw am roi’r holl dir i’r ysgol ac at ddefnydd y pentref, ac mae Cyngor Cymuned Llanrug yn cefnogi’r bleidlais o fwyafrif.
‘Angen cydnabod fod yr ysgol yn fwy rŵan’
Mae Gemma Louise Jones, sylfaenydd y ddeiseb, yn poeni na fydd ffordd i’r ysgol ehangu pe bai’r tai yn cael eu hadeiladu ar y tir.
“Os gawn nhw’r hawl i roi dau dŷ arno fo, does yna ddim posib wedyn bod yr ysgol am allu cael mwy o dir,” meddai wrth golwg360.
“Ac mae’r ysgol dan ei sang yn barod.
“Rydan ni’n un o ysgolion mwyaf Gwynedd, a does yna ddim llawer o le gan gysidro faint o blant sydd yno’n barod.
“Mae angen cydnabod fod yr ysgol yn fwy rŵan nag oedd hi yn 2017.”
Y tir yn cynnig cyfle i ddatrys problemau parcio
Wrth i’r ysgol dyfu, mae pryderon wedi codi ynghylch cyfleusterau parcio.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r tir dros y ffordd i’r ysgol ac ymhellach na thir Tŷ’r Ysgol wedi cael ei ddefnyddio er mwyn adeiladu tai, sy’n golygu mai dyma’r darn olaf o dir fydd ar gael i’r ysgol.
Ymysg yr awgrymiadau ar gyfer y defnydd o’r tir mae gwneud parcio yn fwy diogel a hwylus i’r plant a’u rhieni, yn ogystal â’r trigolion sy’n byw yn agos i’r ysgol.
“Mae parcio i’r ysgol yn gywilyddus i feddwl fod yna gymaint o blant yna,” meddai.
“Dim ond lle i tua phum car sydd yna.
“Pa ddefnydd ydy pum car i 250 o blant?
“Sut does yna ddamweiniau heb fod? Duw a ŵyr.
“Pe bai darn o’r tir yn cael ei roi at barcio, byddai hynny’n ei gwneud hi’n haws i bawb.
“Heb symud safle’r ysgol, fydd yna ddim posib ehangu arni os bydd y tir yma’n cael ei ddefnyddio ar gyfer tai.”
Mae ei hawgrymiadau eraill yn cynnwys:
- ysgol goedwig ar y tir i gynnig yr addysg awyr agored sy’n cael ei hyrwyddo o fewn y Cwricwlwm i Gymru; gallai hyn gynnwys rhandir a thwnnel tyfu bychan. Byddai’r gymuned yn gallu defnyddio’r gofod hwn hefyd fel hafan werdd er lles pawb.
- Tŷ’r Ysgol yn cael ei adfer at ddefnydd addysg ac fel hwb cymunedol.
- datrys problemau draeniad y rhan yma o’r pentref.
‘Cyngor Gwynedd wedi manteisio ar ewyllys da teulu lleol’
Ynghyd â thrigolion eraill, mae Gemma Louise Jones hefyd yn cwestiynu a ydy’r cyngor wedi anwybyddu dymuniadau’r teulu werthodd Tŷ’r Ysgol a’r tir i’r Cyngor.
“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gytûn mai bwriad y teulu wnaeth werthu’r Tŷ’r Ysgol oedd bod yr ysgol yn buddsoddi ohono fo, dim bod y cyngor yn buddsoddi ohono fo,” meddai.
Ysgrifennodd un mewn sylw ar drafodaeth am y tir ar Facebook, “Yn anffodus dw i’n teimlo fod Cyngor Gwynedd wedi manteisio ar ewyllys da teulu lleol yn gwerthu’r tŷ a’r tir i’r cyngor er budd yr Ysgol.
“Mae defnyddio llecyn bach o’r tir i’r ysgol yn “token gesture” gan guddio y tu ôl i’r agenda fod angen mwy o dai ar draws Gwynedd.
“Oes mae angen tai ar draws y sir, ond gan ystyried fod yr Ysgol bron yn orlawn a phroblemau parcio/traffig, dw i’n teimlo fod cael cais cynllunio ar y tir yma am ei gwneud yn amhosib gwneud estyniad gwerth chweil i’r ysgol rŵan neu yn y dyfodol.”
Beth bynnag fydd y penderfyniad yn y pen draw, mae Gemma Louise Jones yn awyddus i wneud y fwyaf o’r cyfle i geisio ennill y tir.
“Fysa’n neis gwybod ein bod ni wedi trio cael y tir ar gyfer yr ysgol, fel oedd ei bwriad i fod yn y cychwyn, a dim i Gyngor Gwynedd elwa ohono,” meddai.
“Pryder mwyaf fi ydy os ydyn ni’n eistedd i lawr ac yn gwneud dim byd, rydan ni am ei golli o.
“Rhaid i ni beidio cael i’r cyfle yma fynd.”
Ymateb y Cyngor
“Gallwn gadarnhau fod hen Dŷ’r Ysgol Llanrug wedi ei brynu am bris y farchnad gan Gyngor Gwynedd yn 2018,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
“Nid oedd cynllun penodol ar gyfer y safle ar y pryd.
“Erbyn 2021 fe gyfrifwyd ar sail niferoedd disgyblion a rhagamcanion fod gofod digonol yn adeiladau presennol yr Ysgol Llanrug i gartrefu’r nifer o blant oedd yn byw yn y dalgylch, ac nad oedd ffordd o allu denu grantiau ar gyfer ail-ddatblygu neu ehangu’r adeiladau.
“Ond fe ddaeth cyfle, trwy Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, i ddatblygu rhan o ardd cyn Tŷ’r Ysgol er mwyn ehangu gofod allanol y Cyfnod Sylfaen, ac mae’r gwaith hwnnw yn cael ei wireddu.
“Gan na fyddai angen Tŷ’r Ysgol na gweddill y tir ar gyfer dibenion yr Ysgol, penderfynwyd ei drosglwyddo i Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a’i ddefnyddio i ddiwallu anghenion tai lleol.
“Yn unol ag uchelgais Cyngor Gwynedd i gefnogi pobol Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau, mae cynlluniau ar y gweill i godi dau dŷ ar y safle fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sef tai i’w prynu neu i’w rhentu gan deuluoedd lleol am bris fforddiadwy.
“Mae sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr ffordd, ac yn arbennig felly plant a’u teuluoedd wrth iddynt gyrraedd a gadael yr ysgol, yn flaenoriaeth i ni fel Cyngor.
“Rydym yn annog teuluoedd i gerdded, seiclo neu ddefnyddio sgwter i deithio i’r ysgol gymaint ag sy’n bosib, er mwyn lleddfu problemau traffig lleol ac er budd yr amgylchedd.
“Ond pan nad yw hynny’n bosib rydym yn annog rhieni i barcio’n ystyrlon os ydynt yn danfon eu plant yn y car.”