Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi cael ei feirniadu am drydar ei fod wedi galw am ryddhau gwystlon yn Gaza wrth ymweld â mosg yn ne Cymru.
Ar ôl ymweld â Chanolfan Fwslemaidd De Cymru gyda Phrif Weinidog Cymru, fe wnaeth Syr Keir Starmer drydar, “Roeddwn i’n ddiolchgar i glywed gan y gymuned Fwslemaidd yng Nghanolfan Islamaidd De Cymru.
“Fe wnes i ailadrodd ein galwadau i ryddhau’r gwystlon, am roi mynediad i fwy o gymorth dyngarol i Gaza, am droi’r cyflenwad dŵr a phŵer yn ôl, ac am ganolbwyntio o’r newydd ar ddatrysiad ar gyfer y ddwy wladwriaeth,” meddai.
Mae’r sylwadau yn “amhriodol”, medd Bethan Sayed, sy’n ymgyrchydd ac yn gyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, gan ychwanegu bod angen i’r Senedd drafod eu rôl ryngwladol.
Yn ôl Israel, mae 222 o bobol yn cael eu cadw’n wystlon yn Gaza ers ymosodiadau grŵp militaridd Hamas ar Hydref 7.
Mae’r awdurdodau yn Gaza yn dweud bod dros 4,600 o Balestiniaid wedi cael eu lladd ers i Israel ddechrau bomio Llain Gaza mewn ymateb.
Sylwadau Keir Starmer
Cyn hyn, mae Syr Keir Starmer wedi mynnu bod gan Israel hawl i amddiffyn eu hunain, ac wedi gwrthod condemnio rhai o dactegau milwrol Israel yn Gaza.
Bellach, mae arweinydd y Blaid Lafur yn dweud na ddylai Israel wadu cymorth ddyngarol i Gaza, ond mewn cyfweliad blaenorol, pan gafodd ei holi a ydy hi’n addas i Israel roi Gaza dan warchae a thorri’r cyflenwad dŵr a thrydan dywedodd, “Dw i’n meddwl bod gan Israel yr hawl yna”.
“Yn amlwg, dw i eisiau i bopeth gael ei wneud o fewn cyfraith ryngwladol, ond dw i ddim eisiau camu i ffwrdd o’r wrth yr elfennau craidd bod gan Israel yr hawl i amddiffyn ei hun ac mai ar Hamas mae’r cyfrifoldeb am weithredoedd terfysgol,” meddai.
Cafodd ei sylwadau eu beirniadu gan nifer o gynghorwyr Llafur, ac mae sawl un yn Lloegr wedi ymddiswyddo yn eu sgil.
‘Amhriodol’
Mae sylwadau diweddaraf Syr Keir Starmer yn “ryw fath o awgrym” fod gan gymdeithas Foslemaidd de Cymru rywbeth i wneud â’r Israeliaid sy’n cael eu cadw’n wystlon yn Gaza, yn ôl Bethan Sayed.
“Wrth gwrs, mae angen gweithredu am y gwystlon, does dim dwywaith am hynny, does neb yn gwadu hynny,” meddai wrth golwg360.
“[Ond] dyw e ddim yn gyfrifoldeb ar Fwslemiaid Cymru i gyfiawnhau beth sy’n digwydd gyda Hamas ym Mhalesteina.
“Wrth gwrs, maen nhw’n condemnio ond mae yna bwyslais arnyn nhw o hyd i fod yn ryw fath o ladmerydd.
“Amhriodol yw’r gair, fwy na dim.”
Ychwanega Bethan Sayed ei bod hi’n credu bod Keir Starmer yn ceisio gwneud yn iawn wedi iddo ddweud ar LBC ei fod e’n credu ei bod hi’n iawn i Israel rwystro cyflenwadau dŵr a thrydan Gaza.
“Dw i’n credu bod angen iddo fe edrych eto ar sut mae e’n gweithredu a beth mae e’n ddweud, achos dyw e ond yn mynd i suro cymunedau – cymunedau sydd efallai wedi bod yn gefnogol i’r Blaid Lafur.”
‘Gwneud safiad’
Roedd Mark Drakeford, sydd wedi dweud bod angen i’r gymuned ryngwladol ddod o hyd i “ffyrdd newydd i gynnig cyfleoedd hirdymor ar lwyddiant i bobol sy’n byw yn Israel a’r Palesteiniaid”, yn rhan o’r ymweliad.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi condemnio ymosodiad Hamas, ac yn dweud bod y golygfeydd yn Israel a Gaza “yn erchyll” a bod ei feddyliau gyda phawb sy’n cael eu heffeithio gan y sefyllfa.
Fodd bynnag, mae Bethan Sayed yn credu ei fod yn “rywbeth negyddol” i’w weld efo Keir Starmer ar yr ymweliad, “pan fo gymaint o broblemau gyda sut mae arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn gweithredu ar hyn o bryd o ran y mater ym Mhalesteina”.
“Mae hwn yn rhywbeth byd-eang mae angen cefnogaeth wleidyddol amdano, ac fel Prif Weinidog Cymru mae Mark Drakeford angen gwneud safiad, a dydy bod gyda Keir Starmer mewn sefyllfa fel hyn ar hyn o bryd ddim yn safiad digon cryf yn y fy marn i.”
Daeth dros 1,000 o bobol ynghyd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Hydref 21) i alw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i fynnu bod cadoediad yn Gaza a bod cymorth dyngarol yn cael ei anfon yno.
“Bydden i’n erfyn ar y Senedd hefyd i drafod y peth. Be’ sy’n digwydd o ran be’ mae Cymru’n gallu ei wneud ar lefel wleidyddol?” meddai Bethan Sayed, sy’n cefnogi galwadau’r Palestinian Solidarity Campaign.
“Mae lot o bethau yn mynd ymlaen fan hyn o ran toriadau, ond dydyn ni ddim yn marw yn sgil bomiau, dydyn ni ddim yn dioddef.
“Mae plant yn marw ym Mhalesteina ar hyn o bryd achos eu bod nhw ddim yn cael digon o adnoddau mewn ysbytai.
“Mae hwn yn rywbeth rydyn ni angen stopio trafod pethau eraill i ymdrin ag e, a dydyn ni ddim yn gweld hynny ar hyn o bryd gan Senedd Cymru, ac mae hynny’n rywbeth dw i’n ddig amdano.
“Er bod gyda ni ddim pwerau rhyngwladol, mae rôl ryngwladol gyda ni.”