Mae adroddiad newydd yn cefnogi galwadau Plaid Cymru i ddatganoli Ystâd y Goron gan ddweud fod y system bresennol yn “afresymegol a rhyfedd.”

Yn ôl yr adroddiad gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, dylid anelu at ddatganoli llwyr cyn diwedd y ddegawd.

“Erbyn 2030, dylai swyddogaethau Ystâd y Goron yng Nghymru gael eu datganoli’n llwyr i gorff newydd sydd â’i brif nod o ail-fuddsoddi’r holl gronfeydd yng Nghymru er budd hirdymor pobl Cymru ar ffurf Cronfa Cyfoeth Sofran,” meddai

“Cymru yw gwlad gyfansoddol dlotaf Prydain Fawr. Mae’r system bresennol yn gweld trosglwyddo cyfoeth o ffioedd sy’n deillio o weithgarwch masnachol Ystâd y Goron yng Nghymru, i Loegr, yn ganlyniad afresymegol a rhyfedd.”

“Echdynnu ein cyfoeth naturiol”

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi croesawu canfyddiadau’r adroddiad.

Cwmni annibynnol yw Ystâd y Goron, ac mae’r cyllid gwerth £16bn yn mynd i’r Trysorlys yn Llundain.

Mae’r Grant Sofran yn talu am ddyletswyddau swyddogol y Brenin ac wedi’i osod ar 25% o elw blynyddol Ystâd y Goron.

Yn ôl Liz Saville Roberts, byddai ei datganoli yn rhoi gwell sicrwydd ym maes ynni a chostau gwresogi i gartrefi Cymru.

Dywed y byddai hefyd yn rhoi mwy o lais i Gymru pan ddaw i wneud penderfyniadau ariannol.

“Mewn hwb mawr i ymgyrch Plaid Cymru, mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi cynnig datganoli ystâd y Goron ac ail-fuddsoddi elw mewn cymunedau drwy gronfa cyfoeth sofran,” meddai.

“Beirniadodd y comisiwn y system bresennol o drosglwyddo cyfoeth o wlad dlotaf Prydain i San Steffan fel un ‘afresymegol a rhyfedd’.

“Ar ochr pwy mae’r Gweinidog: cymunedau Cymreig neu system sy’n echdynnu ein cyfoeth naturiol?”

‘Gwneud gwaith gwych’

Mae taliadau Ystâd y Goron wedi’u datganoli yn yr Alban ers 2016 gyda’r arian bellach yn mynd i lywodraeth y wlad.

Tra hoffai Liz Saville Roberts weld trefniant tebyg yng Nghymru, nid pawb sy’n cytuno.

Dywed James Davies, sy’n weinidog yn Swyddfa Cymru, ei fod yn anghytuno gyda datganoli’r ystâd.

“Rydym wedi cael y drafodaeth hon ar achlysuron blaenorol mewn lleoliadau amrywiol, ond byddwn yn dadlau bod ystâd y Goron yn caniatáu i’r wlad hon rannu risgiau a chyfleoedd y mae’n delio â nhw,” meddai.

“Mae’n gwneud gwaith gwych a dydw i ddim yn cytuno.”