Dim ond dau o wyth cronfa bensiwn llywodraethau lleol Cymru sydd yn gwneud “cynnydd sylweddol” i ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, yn ôl ffigurau newydd.
Cronfeydd Abertawe a Chaerdydd ydy’r rheiny, ac mae gan gronfeydd eraill fuddsoddiadau gwerth miliynau mewn cwmnïau sy’n ymwneud â mwyngloddio, drilio neu gloddio, yn ôl Platform UK a Chyfeillion y Ddaear.
Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi dros £48 miliwn mewn tanwyddau ffosil, Gwent wedi buddsoddi dros £40 miliwn, a Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi dros £16 miliwn.
Mae cronfa arall, Dyfed, sy’n gweithredu fel prif awdurdod Partneriaeth Pensiwn Cymru, bellach wedi buddsoddi o leiaf £105 miliwn mewn cwmnïau nwy ac olew, er mai dim ond 54% o’i daliadau sydd wedi cael eu datgelu.
Ledled Cymru, mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yn dal i fuddsoddi o leiaf £227 miliwn mewn tanwydd ffosil, ac mae’r ffigwr go iawn yn debygol o fod gryn dipyn yn uwch gan fod pedwar o’r wyth cronfa wedi datgelu llai na hanner eu taliadau.
Mewn ymateb i feirniadaeth gynyddol, mae cronfeydd pensiwn yn dadlau y gallan nhw ddylanwadu ar bolisïau cwmnïau tanwydd ffosil, er bod tystiolaeth gref nad yw hyn wedi gweithio, meddai Divest Cymru.
Mae nifer cynyddol o gynghorau sir wedi pasio cynigion yn dweud wrth reolwyr eu cronfeydd i ddadfuddsoddi, a’r llynedd fe basiodd y Senedd gynnig yn galw ar holl bwyllgorau pensiwn awdurdodau lleol i ddatgarboneiddio eu harian erbyn 2030.
‘Trychineb hinsawdd’
Mae’r grŵp ymgyrchu Divest Cymru’n dweud eu bod wedi’u siomi gyda’r cyfle a wastraffwyd i ddadfuddsoddi.
Maen nhw’n dadlau y byddai stopio buddsoddi yn y cwmnïau hyn yn dda i’r hinsawdd, ac yn gwneud lles i bensiynwyr a chynilwyr pensiwn hefyd.
“Rydyn ni’n credu y bydd aelodau’r gronfa bensiwn yn cael sioc o glywed bod cymaint o’u harian yn dal i gael ei ddefnyddio mewn ffordd a fydd yn niweidio ein dyfodol i gyd,” meddai Rick Mills o’r grŵp.
“Mae cynlluniau pensiwn llywodraeth leol yn sicrhau trychineb hinsawdd pan fedran nhw fod yn defnyddio eu harian mewn ffordd sy’n cynnig elw ariannol da tra hefyd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.
“Er enghraifft, gellid defnyddio’r arian sy’n cael ei fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil i ariannu prosiectau ynni adnewyddadwy neu dai cymdeithasol yma yng Nghymru.”
‘Rhedeg allan o amser’
Ychwanega Hywel Davies o Divest Cymru ei bod hi “tu hwnt i gred” bod posib defnyddio arian sy’n dod o bocedi gweithwyr cynghorau i “niweidio’n dyfodol ni oll ar raddfa sydd ond yn dod i’r amlwg nawr”.
“Rydyn ni’n rhedeg allan o amser i weithredu, mae angen i bob cronfa bensiwn Cymru ymrwymo i waredu’n llawn ar unwaith.”