Mae ffermwyr llaeth yn wynebu “dyfodol ansicr”, medd undeb NFU Cymru wrth annog Llywodraeth Cymru a chwsmeriaid i gefnogi amaeth y wlad.

Daw eu galwadau wrth i ffermwyr gwrdd yn Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Mawrth, Hydref 24).

Mae amodau yn y farchnad yn golygu bod pris llefrith wedi gostwng 30% ar gyfartaledd ers dechrau’r flwyddyn, ac mae ffermwyr yn derbyn 15c yn llai am bob litr o lefrith nawr o gymharu â’r Nadolig diwethaf.

Yn ôl NFU Cymru, mae yna “ychydig o arwyddion cadarnhaol” yn y farchnad laeth ryngwladol, ond maen nhw’n rhybuddio y bydd hi’n cymryd amser i effaith hynny gyrraedd ffermwyr.

‘Nid dyma’r ffordd i redeg diwydiant’

Mae ffermwyr llaeth yn wynebu ansicrwydd a fyddan nhw’n gallu elwa ar rai o raglenni cymorth amaethyddol Llywodraeth Cymru hefyd, yn ôl NFU Cymru.

Dywed yr undeb fod nifer o ffermwyr yn poeni bod cynlluniau Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran torri coed, am gyfyngu ar eu capasiti i gynhyrchu llaeth a’i gwneud hi’n amhosib iddyn nhw ymuno â’r Rhaglen Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol.

Mae faint o fuddsoddi mae gofyn i ffermwyr ei wneud i gadw at reoliadau yn herio ffermydd yn ariannol, yn ôl y NFU Cymru.

“Mae ffermwyr llaeth Cymru’n wynebu’r storm berffaith; mae’n edrych fel bod y diwydiant yn rhedeg ar danwydd o’r enw ‘gobeithio y bydd pethau’n gwella’, ac mae’r tanc ar goch,” meddai’r Llywydd Aled Jones.

“Nid dyma’r ffordd i redeg diwydiant.

“Mae’n ymddangos bod rhannau eraill o’r gadwyn gyflenwi’n pasio’u colledion ymlaen at gynhyrchwyr ac unwaith eto ffermwyr sy’n ysgwyddo’r risgiau sy’n dod gyda chreu cynnyrch naturiol, iach a chynaliadwy.

“Mae ffermio’n fusnes tymor hir, ond mae natur fyny a lawr ein marchnad yn golygu nad oes gan ffermwyr llaeth ledled Cymru’r hyder i wneud y penderfyniadau sydd eu hangen o ddydd i ddydd i yrru busnes yn ei flaen.

“Mae’r ansicrwydd hwn yn effeithio ar ddiwydiannau cysylltiedig, ac yn effeithio ar wead cymdeithasol a llewyrch ein cymunedau gwledig.

“Rydyn ni’n annog cwsmeriaid i gefnogi’n ffermwyr llaeth yng Nghymru a chwilio am y ddraig goch wrth siopa.”

‘Herio gwytnwch ffermwyr’

Mae cynnyrch llaeth Cymru werth bron i £850m i economi Cymru, ac mae’r sector yn cyflogi 5,300 o bobol yn uniongyrchol.

Ychwanega Jonathan Wilkinson, Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, fod ffermwyr Cymru mewn lle da i gyflenwi cwsmeriaid o amgylch y byd wrth i boblogaeth y byd dyfu ac wrth i’r galw am gynnyrch llaeth gynyddu.

“Wrth wneud y gorau o eneteg, a gwella maeth ac iechyd anifeiliaid, mae ffermwyr llaeth yng Nghymru’n anelu at gael gwartheg mwy effeithlon, sy’n golygu fod gan ein llaeth un o’r olion troed carbon lleiaf yn y byd,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’r ansicrwydd a’r diffyg hyder mae ein sector yn ei wynebu nawr yn herio gwytnwch ffermwyr ac yn rhoi hyn dan fygythiad.”

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, yn dweud ei bod hi eisiau i bolisi amaethyddol Cymru weithio i bob ffermwr, ac mae NFU Cymru’n mynnu bod hynny’n cynnwys ffermwyr llaeth.

Ychwanega Jonathan Wilkinson ei fod e eisiau i’r gweinidog weithio gydag NFU Cymru ar hynny.