Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Americanwr Phil Wyman, oedd yn byw yng Nghaernarfon gan fynd ati i ddysgu Cymraeg.
Yn awdur, cerddor, bardd, athronydd a chyn-weinidog, fe deithiodd i Gymru sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd cyn penderfynu ymgartrefu yng Nghymru’n barhaol.
Yn ystod ymweliad emosiynol â chastell Caernarfon, fe wnaeth e addo y byddai’n cerdded o amgylch Cymru am flwyddyn gron gyfan heb siarad dim byd ond Cymraeg.
Y diwrnod hwnnw, dros bymtheg mlynedd yn ôl, fe wnaeth Phil Wyman o Salem, Massachussetts, syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â Thre’r Cofis.
Roedd disgwyl iddo ddechrau ar y daith gerdded ‘Dim Saesneg’ yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn ddiweddarach eleni.
Yn aelod o’r weinidogaeth ers 1985, roedd yn gweithio i Undeb Bedyddwyr Cymru, ac yn mynychu achlysuron fel yr Eisteddfod a Glastonbury gyda’i waith.
Daeth i Gymru am y tro cyntaf yn 2003, a bu’n ymweld bob haf cyn symud yma’n barhaol yn ddiweddar.
Yn fwyaf diweddar, bu’n ymweld ag Abertawe ar gyfer rali a gorymdaith YesCymru, a Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll, lle bu’n gweithio.
Teyrngedau
“Newyddion trist iawn oedd clywed fod fy ngŵr gwadd arbennig wythnos hon ar Cymeriadau Cymru, y gweinidog, awdur a chefnogwr yr iaith Gymraeg o Galifornia, Phil Wyman, wedi marw yn sydyn,” meddai Chris Jones, cyflwynydd y podlediad Cymeriadau Cymru.
“Ni fyddaf y rhoi’r bennod allan o ganlyniad. Cydymdeimlad dwys â’i deulu a heddwch i’w lwch.”
Dywed Aled Job ei fod yn “[d]rist eithriadol clywed am farwolaeth sydyn Phil Wyman”.
“Americanwr oedd wedi setlo yng Nghaernarfon a dysgu Cymraeg,” meddai.
“Gweinidog a cherddor hoffus iawn, oedd hefyd yn paratoi taith gerdded o gwmpas Cymru am flwyddyn gan siarad Cymraeg yn unig gyda phobol ar ei daith.
“Ergyd fawr i’w deulu a’i ffrindiau a charedigion yr iaith.”
Yn ôl Capel Caersalem yng Nghaernarfon, roedd yn “ymwelydd cyson” â nhw, gan weithio ar gynllun VISA Undeb Bedyddwyr Cymru.
“Roedd ei alwad a’i weinidogaeth yn unigryw ac yn mynd â’r sgwrs am fywyd, ffydd a phwrpas yn bell tu hwnt i furiau’r capel mewn ffordd nad oes llawer yn medru gwneud,” meddai llefarydd.
“Byddwn hefyd yn cofio’n arbennig am ei ddoniau a’i gyfraniad i fywyd mawl a cherddorol yr eglwys (roedd newydd orffen recordio Concept Album yn mynd trwy’r Gwynfydau!) heb sôn am ei chwerthiniad iach!
“Roedd yn bererin, a bu’n grwydryn (yn ystyr lythrennol y gair!) ond fe ddyfnhaodd hyn ei ffydd ac yng nghanol y profiadau hynny daeth yr alwad i Gymru yn rhan o’i stori.
“Roedd rhywbeth o alwad Ruth o’r Hen Destament yng ngalwad Phil i Gymru: ‘ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di’n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau.”