Mae Gwent ymhlith yr ardaloedd heddlu ledled Cymru a Lloegr gyda’i gilydd lle mae’r niferoedd lleiaf o droseddau seibr, yn ôl ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi.

Cleveland yng ngogledd Lloegr sydd ar y brig, gyda Durham yn drydydd.

Mae CloudTech24 wedi dadansoddi’r data diweddaraf gan y Ganolfan Adrodd ar Dwyll Cenedlaethol a Throseddau Seibr, gan fesur nifer y troseddau fesul pob 10,000 o’r boblogaeth dros y deuddeg mis diwethaf.

Roedd 198 o adroddiadau o droseddau seibr yn Cleveland yn y cyfnod hwnnw, sy’n cyfateb i 3.47 fesul pob 10,000 o’r boblogaeth, ac ymhlith y troseddau mwyaf cyffredin roedd hacio gwybodaeth bersonol a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost.

Yng Ngwent, roedd 208 o adroddiadau o droseddau seibr, sy’n cyfateb i 3.48 ym mhob 10,000 o’r boblogaeth, gyda’u hanner nhw’n ymwneud â hacio cyfryngau cymdeithasol ac e-bost.

230 (3.59) oedd y ffigwr yn Durham, gyda’r un math o droseddau’n cael eu hadrodd, ynghyd â’r defnydd o feddalwedd feirws a thwyll drwy hacio.

Dyfnaint a Chernyw, a Northumbria sy’n cwblhau’r pump uchaf.

‘Troseddau seibr yn effeithio ar bawb yn wahanol’

“Mae’n ddiddorol gweld sut gall troseddau seibr effeithio ar bawb yn wahanol, gyda’r fath wahaniaeth sylweddol rhwng y rhai ar y rhestr hon a’r ardaloedd sydd fwyaf agored i droseddau seibr,” meddai llefarydd ar ran CloudTech24.

“Mae’r data’n awgrymu, er gwaethaf niferoedd isel o droseddau seibr mewn rhai ardaloedd, mai’r math mwyaf cyffredin o drosedd yw hacio cyfryngau cymdeithasol ac e-bost.

“Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobol fod yn wyliadwrus ynghylch bygythiadau ar-lein yn eu bywydau personol ac yn y gwaith.”