Mae ymddiriedolaeth gymunedol wedi cael ei lansio yn Llŷn er mwyn sicrhau bod stoc o dai fforddiadwy yn dod dan berchnogaeth a rheolaeth y gymuned.

Bydd Ymddiriedolaeth Tir Bro’r Eifl yn cynnal arolwg o anghenion tai lleol pentrefi Llanaelhaearn, Trefor, Llithfaen a Pistyll ym mis Mehefin er mwyn asesu’r galw.

Yn ogystal â sicrhau tai i bobol ifanc yn cael eu prisio allan o’r ardal, mae angen hefyd am dai addas i deuluoedd a phobol ag anableddau, meddai Cian Ireland, Cadeirydd yr ymddiriedolaeth.

Ar hyn o byd, mae rhywun o bob un o’r pedwar pentref ar y pwyllgor, ond y gobaith yw y bydd mwy yn ymuno gydag amser, eglura Cian Ireland, sy’n 23 oed ac yn dod o Lanaelhaearn.

“Mae o wedi dod o dipyn o drafod dros gyfnod o flynyddoedd, mae lot o siarad wedi bod am y problemau tai yn yr ardal, protestio,” meddai wrth golwg360.

“Mae o wedi dod allan o dipyn o bobol leol yn siarad, a meddwl be’ fedrwn ni fel cymuned wneud i ddatrys y broblem.

“Y gobaith ydy tai fforddiadwy dan berchnogaeth a rheolaeth y gymuned.

“Os ydyn ni’n gallu bod yn berchen ar y tir a’r tai eu hunain fedrwn ni eu cadw nhw mewn perchnogaeth gymunedol, ac fel yna fydd yna sicrwydd bod yna nifer o dai fforddiadwy ar gyfer pobol leol sydd eu hangen nhw.”

Gwahanol opsiynau

Mae’r criw wrthi’n datblygu arolwg i asesu’r anghenion lleol, ac am bythefnos fis nesaf, rhwng Mehefin 12 a 23, byddan nhw’n cynnal diwrnodau agored ym mhob un o’r pentrefi, ynghyd â nosweithiau gyda cherddoriaeth a bwyd i ddenu pobol i roi eu barn.

“Mae pawb efo awgrym neu syniad o be ydy’r angen a beth rydyn ni angen ei adeiladu, ond drwy gael rhywbeth cadarn efo’i gilydd yn ystod mis Mehefin fyddan ni wedyn yn gallu edrych ar ba fath o dir sydd ar gael, pa fath o dai fedrwn ni eu hadeiladu sy’n cyfarfod yr angen yn lleol.”

Nes y byddan nhw wedi cael canlyniadau’r arolwg, fyddan nhw ddim yn gwybod yn union sut fydd y model yn edrych.

“Mae yna wahanol opsiynau, mae yna dai gwag yn yr ardal hefyd – mae hynny’n rhywbeth rydyn ni’n edrych arno,” eglura Cian Ireland.

“O ran adeiladu tai, mae yna angen am dai newydd sy’n cyfarfod anghenion [presennol]. Mae lot o’r stoc dai yn yr ardal reit hen, cartrefi chwarelwyr oedd lot ohonyn nhw’n wreiddiol, ar gyfer teuluoedd er enghraifft neu bobol anabl dydy lot o’r tai ddim yn cyrraedd eu hanghenion nhw. Mae hynny’n un ffordd o sbïo arno fo.

“Ond os oes yna dai’n dod ar y farchnad, mae’n gwneud synnwyr i ni, os ydyn ni’n gallu eu fforddio nhw, eu prynu nhw a’u gwneud nhw fyny.

“Mae yna opsiynau ar gael yn dibynnu ar ba anghenion rydyn ni’n eu hadnabod yn ystod y broses arolygu.

“Dw i’n adnabod pobol leol, mae yna bobol ifanc yn Llithfaen – criw o bobol sy’n ffeindio hi’n anodd cael tai – felly maen nhw wedi dod ynghyd i drio cefnogi’r prosiect yma,

“Dw i’n adnabod pobol hŷn hefyd sy’n anabl, ac maen nhw wedi ffeindio fo’n anodd cael tai, byngalos, sy’n hygyrch ar eu cyfer nhw.

“Mae yna wahanol broblemau, dydy o ddim jyst yn bobol ifanc, mae o’n dod ar draws gwahanol ddemograffegau yn ein cymdeithas leol ni.”