Mae Prifysgolion Cymru, drwy raglen Cymru Fyd-eang, wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda sefydliad Prifysgolion Canada, er mwyn cryfhau’r cydweithrediad addysgol rhwng y ddwy wlad.

Gan adeiladu ar y gwaith blaenorol rhwng Prifysgolion Cymru a Phrifysgolion Canada, mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu ymrwymiad i ddatblygu perthnasoedd hirdymor, ac i hyrwyddo ymhellach ddatblygiad cydweithredu sefydliadol mewn addysg ac ymchwil ar draws y ddwy wlad.

Mae amcanion allweddol y cytundeb yn cynnwys:

  • cynyddu symudedd staff a myfyrwyr yn y tymor byr
  • gwella cydweithredu mewn ymchwil a datblygiad yn y meysydd allweddol sydd o ddiddordeb a rennir, megis ynni gwyrdd a thechnoleg, iechyd a llesiant, diwydiannau creadigol, datblygiadau digidol, a gweithgynhyrchu a deunyddiau
  • meithrin partneriaethau o fewn y sector i gynorthwyo â symudedd staff a myfyrwyr
  • cadarnhau perthnasoedd dwyochrog rhwng Cymru a Chanada yn y sector addysg.

‘Economi ffyniannus’

“Mae economi ffyniannus sy’n seiliedig ar wybodaeth yn dibynnu ar fod â phoblogaeth sydd wedi’i haddysgu’n dda, ac mae cydweithredu’n allweddol i ddatblygu systemau addysg ac ymchwil sy’n cyflawni ar gyfer cymdeithas,” meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Cymru Fyd-Eang.

“Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn agor drysau i weithgareddau cydweithredol sy’n mynd i fod o fudd i’r naill wlad a’r llall, yn ogystal â hybu ein rhagoriaeth addysgol.

“Mae’n cynrychioli cam arall yn ein perthynas gadarnhaol â’n partneriaid yng Nghanada, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Phrifysgolion Canada er budd ein dwy wlad.”

‘Byd rhyng-gysylltiedig’

“Mewn byd sydd yn fwy fwy rhyng-gysylltiedig heddiw, mae’n bwysicach nag erioed i feithrin perthnasoedd hirdymor rhwng pobl, diwylliannau a chymdeithasau,” meddai Paul Davidson, llywydd Prifysgolion Canada.

“Mae Prifysgolion Canada yn falch o lofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn gyda Phrifysgolion Cymru i gynyddu’r cyfleoedd i’n dwy wlad cydweithio gyda’i gilydd a chefnogi rhagoriaeth barhaus mewn addysg uwch ac ymchwil.”