Mae Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, wedi galw etholiad brys ar Orffennaf 23, ar ôl i’r Blaid Sosialaidd golli cryn dipyn o dir yn yr etholiadau lleol a rhanbarthol ddydd Sul (Mai 28).

Mae Plaid y Bobol wedi ennill buddugoliaeth ysgubol, ac yn ôl y prif weinidog mae’n “cymryd cyfrifoldeb am y canlyniadau” ac yn dweud y dylai ei blaid “roi ein mandad democrataidd i ewyllys y bobol”.

Daw’r etholiad rai misoedd cyn dyddiad gorffen swyddogol y prif weinidog yn niwedd 2023, a dyma’r tro cyntaf erioed i etholiad cyffredinol gael ei gynnal ym mis Gorffennaf yn y wlad.

Bydd dechrau’r cyfnod ymgyrchu’n cyd-daro â dechrau cyfnod Llywydd newydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r swydd honno’n mynd i Sbaen am y flwyddyn nesaf o Orffennaf 1.

Wrth wneud anerchiad ar y teledu, dywedodd Sánchez mai’r “peth gorau yw i adael i Sbaenwyr benderfynu dyfodol gwleidyddol y wlad”.

Mae e wedi galw ar ei blaid i “fyfyrio” ar y canlyniadau gwael, ond mae’n mynnu nad ydyn nhw’n “gatastroffig” chwaith.

Enillodd Plaid y Bobol 23,412 o seddi ar gynghorau ledled Sbaen, sy’n gynnydd o ryw 3,000 ers yr etholiad diwethaf, a chyfanswm o fwy na saith miliwn o bleidleisiau (31%) i gyd.

Roedden nhw’n fuddugol yn y rhan fwyaf o ranbarthau a dinasoedd yn Sbaen, ac mae disgwyl iddyn nhw ddod i rym, naill ai ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o glymblaid gyda VOX, plaid asgell dde eithafol.

Enillodd y Sosialwyr 20,784 o seddi, gan golli dros 1,500 ers 2019, a chyfanswm o ryw 6.2m o bleidleisiau (28%, i lawr o 29% yn 2019).

Yn ôl Alberto Núñez Feijóo, arweinydd Plaid y Bobol, “gorau po gyntaf” y caiff etholiad ei gynnal, a hynny ar ddechrau “cyfnod gwleidyddol newydd” sy’n cefnu ar wleidyddiaeth Pedro Sánchez.

Dywed fod “niwed” wedi bod yn Sbaen dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i nifer o bleidiau ganolbwyntio ar annibyniaeth i Gatalwnia, lle daeth buddugoliaethau mwya’r Sosialwyr, tra bod Plaid y Bobol wedi perfformio orau yn ninasoedd mwyaf Sbaen.