Ymunodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Ysgol Llanddoged ac Ysgol Ysbyty Ifan yn ddiweddar i ddathlu prosiect newydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg.
Dechreuodd y rhaglen fis o hyd gyda chyflwyniad i hanes un o drigolion enwocaf Tŷ Mawr Wybrnant, drwy berfformiad hwyliog a rhyngweithiol Mewn Cymeriad ar y safle gan yr actor Llion Williams.
Gyda chymorth hwyluswyr lleol, ‘Tape Community, Music and Film’, aeth yr ysgolion ati i ddychmygu’r synau y byddai William Morgan wedi’u clywed yn blentyn o’u hoedran nhw yn y ffermdy dros 400 mlynedd yn ôl.
Cafodd y disgyblion y dasg o greu map o Dŷ Mawr ac i ddod â’r tŷ yn fyw drwy sain, gyda’r sesiynau’n cynnwys recordio synau go iawn, fel y nant, gan ddefnyddio proses o ail-greu synau o’r enw seiniau Foley, oedd yn cynnwys bod yn greadigol gyda phropiau annisgwyl, fel papur gyda swigod y gellir eu popio ar gyfer ail-greu sŵn tân yn yr aelwyd.
Her o greu dehongliad i ymwelwyr
Cafodd y plant gryn hwyl ar y dehongliad drwy weithio yn greadigol a dysgu am eu diwylliant.
“Roeddem am weithio mewn partneriaeth â’r ysgolion, gan gynnig y cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd wrth roi’r her iddynt greu dehongliad i ymwelwyr,” meddai Lois Jones, Swyddog Partneriaethau a Rhaglennu, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Nhŷ Mawr Wybrnant.
“O fewn y paramedrau hynny, cynlluniwyd y rhaglen i gael ei harwain gan y plant a gwnaeth eu brwdfrydedd, eu hymgysylltiad â’r broses a’u perchnogaeth a’u balchder yn y gwaith argraff fawr arnom.”
Newidiadau mawr wrth ymateb i’r pandemig
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydnabod eu bod nhw wedi gorfod gwneud rhai newidiadau mawr yn Nhŷ Mawr Wybrnant mewn ymateb i’r pandemig.
Ond mae cynlluniau mawr ar y gweill i addysgu plant yno ar gyfer y dyfodol, a hwythau wedi goroesi effeithiau’r pandemig.
“Yn dilyn llwyddiannau ein gwaith gydag ysgolion, rydym yn edrych i ddatblygu ffocws ar addysg yn Nhŷ Mawr yn y dyfodol,” meddai Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
“Mae wedi rhoi cymaint o foddhad ac mae wedi bod yn galonogol gweld plant yn gallu mwynhau profiadau yr oeddem ni i gyd wedi eu cymryd yn ganiataol cyn y pandemig.
“Mae rhywbeth mor wych hefyd am glywed stori o safbwynt pobol ifanc.
“Bu i ni ddechrau’r tymor hwn drwy wahodd teuluoedd i Dŷ Mawr Wybrnant i ddathlu gwaith yr ysgolion, daeth nifer wych i’r cyfarfod ac roedd ymdeimlad cymunedol hyfryd y diwrnod hwnnw, thema gref ar gyfer diwrnodau agored dilynol hefyd.”
Gweld gwaith y disgyblion
Gall unrhyw un sy’n awyddus i weld gwaith y disgyblion fynd i’r ystafell arddangos a’r tiroedd, sydd ar agor yn ddyddiol drwy’r tymor, ac fe fydd modd clywed y synau pan fydd y ffermdy ar agor.
Bydd Tŷ Mawr Wybrnant ar agor tan fis Hydref, gyda phob diwrnod agored yn canolbwyntio ar thema wahanol, ac mae mynediad am ddim.
Yn ogystal â’r diwrnodau agored, bydd y ffermdy ar agor ar sail ad-hoc yn dibynnu ar argaeledd staff drwy gydol y tymor, ac mae ymwelwyr yn cael eu hannog i edrych ar y wefan am yr oriau agor diweddaraf.
Ffocws y diwrnod agored nesaf ar ddydd Sul, Mehefin 4 fydd y Gymraeg yn y dirwedd, fydd yn golygu gweithio gyda Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru i gasglu a chofnodi hen enwau Cymraeg caeau, llwybrau a phontydd yn y dirwedd o’u cwmpas.