Mae cronfa gafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaeth merch fach bump oed yn ardal Crymych nos Sadwrn (Mai 27) eisoes wedi codi dros £10,000.

Mae’r gronfa wedi’i sefydlu gan Beccy Eynon, ar ôl i Alysia Salisbury farw mewn tân yn mewn tŷ ym Mhontyglasier yn Sir Benfro.

Yn ôl y dudalen sydd wedi’i chreu ar y wefan GoFundMe, bydd unrhyw arian sy’n cael ei godi’n mynd tuag at angladd y ferch fach, a hefyd i ddod o hyd i gartref newydd i’r teulu.

Mae blychau arian wedi’u gosod yng Nghrymych ac yng Nghilgerran.

Apeliodd cynghorwyr lleol am ddillad a nwyddau ymolchi i’r teulu yn dilyn y tân, ac maen nhw’n canmol y gymuned am fod “mor hael” nes bod rhaid iddyn nhw gyhoeddi fod ganddyn nhw ddigon o fewn cyfnod byr ar ôl cyhoeddi’r apêl.