Mae cyn-blismon 23 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cyfaddef dros 100 o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal gan ei hen gyflogwyr, Heddlu’r De, ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth am weithgarwch amheus ar y we, gan gynnwys lawrlwytho delweddau anweddus o blant oddi ar y we dywyll.

Daeth i’r amlwg wedyn fod Lewis Edwards, 23, yn blismon ac fe gafodd ei arestio a’i wahardd o’i waith cyn ymddiswyddo.

Cafodd gwrandawiad brys ei gynnal, ac fe gafodd ei ddiswyddo am gamymddwyn, ac mae bellach wedi’i ychwanegu at restr o bobol na fyddan nhw’n cael dychwelyd i’r heddlu am oes.

Mae wedi’i gyhuddo o 106 o droseddau, gan gynnwys annog plant i greu delweddau anweddus ac i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw.

Plediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd, ac mae’r ymchwiliad yn parhau wrth i’r heddlu gefnogi ei ddioddefwyr.

‘Graddfa a difrifoldeb eithriadol’

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, roedd troseddau Lewis Edwards “ar raddfa ac o ddifrifoldeb eithriadol”.

Roedd hyn yn cynnwys bygwth a blacmelio’i ddioddefwyr oedd yn ei ofni, meddai.

Fel rhan o’r ymchwiliad, aeth yr heddlu ati i geisio dod o hyd i wybodaeth oedd wedi’i chodio ar gyfrifiaduron a dyfeisiau symudol.

Yn ôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards, “mae ymddygiad Lewis Edwards ond yn niweidio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona ac yn tanseilio gwaith y rhan fwyaf o blismyn cyfrifol sy’n gweithio’n galed ac yn gwasanaethu cymunedau de Cymru â dewrder a balchder”.

“Does dim lle yn Heddlu’r De i unrhyw un sy’n camddefnyddio’r cyfrifoldeb personol sydd ganddyn nhw fel plismyn,” meddai.