Mae’r Urdd a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Daeth y cyhoeddiad ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri heddiw (dydd Mawrth, Mai 30).

Bydd rhaglen hyfforddiant Dysgu Cymraeg yn cael ei rhoi ar waith gyda’r Urdd, er mwyn cefnogi’r mudiad i ddenu gweithlu amrywiol, ac i gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru gyfan.

Bydd cefnogaeth tiwtor ymhlith yr hyfforddiant.

“Mae’r Urdd yn perthyn i bawb,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae gwasanaethau ein cynulleidfa graidd yn hollbwysig, ond rydan ni’n awyddus, hefyd, i estyn allan ymhellach at gynulleidfaoedd newydd, er mwyn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.”

‘Ymestyn y cyfleoedd’

Bu golwg360 yn holi Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg, ar y Maes.