Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer fferm wynt allai bweru mwy na 15,000 o gartrefi.

Mae’r cynlluniau ar gyfer saith tyrbin ym Mynydd y Glyn, i’r dwyrain o Drebanog, wedi’u cyflwyno gan Pennant Walters Ltd, gyda chapasiti posib o 30mW.

Dywedodd y datganiad cynllunio gafodd ei gyflwyno gyda’r cais y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cynhyrchu 24.2mW o ynni adnewyddadwy, yn seiliedig ar dyrbinau capasiti llai o 3.45mW, fyddai’n cefnogi anghenion trydan oddeutu 15,376 o gartrefi.

Arian, gwaith a lleoliad y datblygiad

Dywedodd y byddai’r datblygiad yn cefnogi buddsoddiad yn yr economi a chyflogaeth, gydag oddeutu 41 o swyddi’n cyfateb i lawn amser yn ystod y gwaith adeiladu a phedair yn ystod gweithrediadau.

Mae amcangyfrifon y byddai’r gwariant yng Nghymru’n gysylltiedig â’r cyfnod adeiladu’n £9.6m, tra byddai’r cyfnod gweithrediadau’n cyfateb i £700,000 y flwyddyn.

Byddai’r datblygiad arfaethedig o dan berchnogaeth leol, gyda phencadlys Pennant Walters a’u rhiant gwmni, y Walters Group, yn Rhondda Cynon Taf.

Mae’r safle ryw gilomedr i’r dwyrain o Drebanog, a 600m i’r de-ddwyrain o Glynfach, a byddai mynediad ar ffurf llwybr newydd yn arwain o gyffordd newydd ar yr A4233.

Byddai ar gopa a llethrau uchaf Mynydd y Glyn i’r de o afon Rhondda.

Does gan y safle ddim ffiniau caeau penodol a dydy e ddim wedi’i orchuddio gan goed, sy’n ei adael yn agored.

Mae’r safle’n ryw 182 hectar, ac fe fydd yn gyfuniad o is-orsaf ac adeilad rheoli, unedau adeiladu dros dro gan gynnwys swyddfeydd dros dro, padiau craen ar safle pob tyrbin, sylfeni tyrbinau, mannau gosod a storio, ceblau tanddaearol yn cysylltu’r tyrbinau a’r is-orsaf, llwybrau mynediad mewnol, mynediad o’r newydd o’r A4233, llinell dros ben o gysylltiad grid hirach (a’r gweddill dan ddaear) rhwng y safle ac is-orsaf bresennol y Grid Cenedlaethol, a gweithfeydd eraill.

Penderfyniad

Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch y cais yn cael ei wneud gan PEDW, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, gan fod y datblygiad yn cael ei ddisgrifio fel un sydd o bwys cenedlaethol.

Dywedodd y datganiad cynllunio fod y datblygiad yn cael ei ystyried fel un sy’n cyd-fynd â pholisïau gan nad yw’r effeithiau amgylcheddol sy’n codi o’i adeiladu a’i weithredu’n cael eu hystyried fel rhai arwyddocaol o’u pwyso yn erbyn y manteision fyddai’n dod o gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru i gynhyrchu 70% o’r trydan sy’n cael ei ddefnyddio trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030.

Dywedodd, tra bod effeithiau ar y dirwedd leol wedi’u nodi fel rhai allai fod yn arwyddocaol, fod y fframwaith polisi positif o blaid gwynt ar yr arfordir sy’n cael ei grybwyll yn Cymru’r Dyfodol yn dangos y dylid rhoi sêl bendith i’r datblygiad arfaethedig.

“Mae ffermydd gwynt ar yr arfordir, yn eu hanfod, yn achosi effeithiau i’r dirwedd leol (a rhai gweledol), ond rhaid pwyso lefel yr effeithiau yn erbyn manteision y datblygiad, ac ar gyfer y datblygiad hwn, pwyso’r rhain yn erbyn y pwysau sylweddol sydd i’w roi ar yr angen i gynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy,” meddai.

Yn nhermau bioamrywiaeth, dywedodd y datganiad na fyddai unrhyw effeithiau annerbyniol ar gyfanrwydd safleoedd dynodedig rhyngwladol na chenedlaethol.

Dywedodd nad oes yna unrhyw effeithiau arwyddocaol ar asedau treftadaeth adeiledig gwarchodedig statudol, ac mae modd lliniaru unrhyw effeithiau o gysgodion, sŵn a golau.

Ychwanegodd y datgniad fod ymgynghoriad wedi dod i’r casgliad na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar gyfleusterau amddiffyn na gweithrediadau, tra nad yw’r asesiad trafnidiaeth yn nodi unrhyw effeithiau sylweddol sy’n codi o’r gwaith adeiladu.

Ychwanegodd ymhellach y bydd deunyddiau’n dod o’r ardal leol lle bynnag y bo’n bosib, a bod yr ymgeisydd yn cynnig gwella ansawdd cynefinoedd ar y safle, gan gydnabod fod rhan ohono wedi’i ddynodi’n Safle o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur.